MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: £18,945 - £19,246
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 13 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £18,945 - £19,246
Ynglŷn â'r RôlCynorthwyydd Addysgu Lefel 2 sy'n cefnogi dysgwyr gyda diagnosis o Awtistiaeth, anawsterau cyfathrebu a heriau prosesu synhwyraidd.
Lleoliad: Ysgol Sant Christopher
Swydd: Lefel 2 Cynorthwyydd Addysgu
Math o gontract: Parhaol, 32.50 awr yr wythnos, 38 wythnos y flwyddyn + 2 Ddiwrnod Hyfforddiant
Cyflog: G04 - £18,945 - £19,246 y flwyddyn
Dyddiad Dechrau: Cyn gynted â phosibl
Amdanom Ni:
Mae St Christopher's yn ysgol arbennig fawr, ddeinamig sy'n ymroddedig i ddarparu addysg a chefnogaeth o'r safon uchaf i ddysgwyr 6-19 oed ag ystod eang o anghenion, gan gynnwys Awtistiaeth gymhleth, anawsterau cyfathrebu ac anghenion prosesu synhwyraidd. Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol, lle gall pob myfyriwr ffynnu yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn emosiynol.
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu Lefel 2 angerddol a medrus i ymuno â'n tîm ymroddedig. Mae hwn yn gyfle gwych i ymarferydd profiadol sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl ifanc ag anghenion cymhleth.
Y Rôl:
Fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 yn St Christopher's, byddwch yn gweithio'n agos gyda'n hathrawon a'n staff arbenigol i gefnogi dysgwyr ag anghenion dwys gan gynnwys diagnosis o Awtistiaeth a phrosesu synhwyraidd. Byddwch yn gweithredu strategaethau a dulliau wedi'u teilwra i helpu'r unigolyn i ymgysylltu , hyrwyddo ymddygiadau cadarnhaol, a chefnogi eu lles yn gyffredinol.
Cyfrifoldebau Allweddol:
Darparu cymorth un-i-un a grŵp i fyfyrwyr a diagnosis o Awtistiaeth cymhleth, anawsterau cyfathrebu ac anghenion prosesu synhwyraidd.
Cynorthwyo gyda datblygu a chyflwyno cynlluniau dysgu wedi'u personoli, gan addasu strategaethau i ddiwallu anghenion unigol.
Cefnogi myfyrwyr mewn gweithgareddau academaidd a galwadigaethol, gan gynnwys gofal personol a sessiynnau hydrotherapi, meithrin annibyniaeth a sgiliau bywyd.
Defnyddio technegau cymorth ymddygiad cadarnhaol i annog ac ysgogi myfyrwyr.
Helpu i greu a chynnal amgylchedd dysgu diogel, ysgogol a chynhwysol.
Gweithio'n agos gyda'r athro dosbarth a gweithwyr proffesiynol eraill i fonitro cynnydd ac addasu strategaethau yn ôl yr angen.
Cefnogi myfyrwyr yn ystod gweithgareddau rheoleiddio synhwyrau.
Amdanom chi:
I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon, byddwch chi'n unigolyn sydd yn gallu dangos empathi ac yn amyneddgar gyda dealltwriaeth gref o Awtistiaeth, anawsterau cyfathrebu a heriau prosesu synhwyraidd. Bydd gennych brofiad o weithio mewn lleoliad arbenigol, gydag angerdd am gefnogi plant i gyrraedd eu potensial llawn.
Cymwysterau a Phrofiad Hanfodol:
Profiad o gefnogi myfyrwyr ag Awtistiaeth ac anawsterau prosesu synhwyraidd.
Dealltwriaeth gref o wahanol strategaethau addysgu, yn enwedig y rhai ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol
Sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i adeiladu perthnasoedd cadarnhaol gyda myfyrwyr, staff a rhieni.
Dull rhagweithiol, amyneddgar ac empathig wrth gefnogi myfyrwyr ag anghenion cymleth
Dymunol:
Hyfforddiant ychwanegol mewn strategaethau o weithio gydag unigolion a diagnosis o Awtistiaeth neu cymlethdodau synhwyraidd.
Profiad o ddefnyddio cymhorthion cyfathrebu neu ddyfeisiau cyfathrebu.
Gwybodaeth am dechnegau rheoli ymddygiad cadarnhaol.
Pam St Christopher's?
Amgylchedd tîm cyfeillgar a chefnogol.
Cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus.
Y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl ifanc ag anghenion cymhleth.
Rôl gwerth chweil mewn ysgol sy'n gwerthfawrogi cynhwysiant ac unigolrwydd.
Os ydych chi'n Gynorthwyydd Addysgu profiadol sy'n angerddol am gefnogi pobl ifanc ag anghenion cymleth gan gynnwys Awtistiaeth a phrosesu synhwyraidd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad â'r ysgol, cysylltwch â Lorna Roberts ar 01978 346910.
Mae St Christopher's wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Amdanom Ni
Welcome to St Christopher's School.
We are a special school located in the middle of
Wrexham that supports children and young
people with a range of needs from the age of 6-19
years old. Our children and young people make
our school special and our wonderful staff team
makes it a great place to attend and work.
We have a very large staff team, which includes
teachers, teaching assistants, technical teams,
pupil welfare and specialists.
We are seeking to appoint motivated individuals
to join our teaching assistants team.
We look forward to receiving your completed application.