MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: MPS \/ UPS + TLR2A
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 16 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes (Arweinydd Cyfnod a Chwricwlwm) - Ysgol Gynradd Nant Celyn

Torfaen Local Authority

Cyflog: MPS \/ UPS + TLR2A

Swydd athro/athrawes + TLR2A

Dyddiad Dechrau: 1af Medi 2026

Mae Ysgol Gynradd Nant Celyn yn gymuned ysgol angerddol ac ymroddgar sydd â syniadau mawr a chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. Mae cynhwysiant a llesiant wrth galon popeth a wnawn. Os hoffech chi fod yn rhan o ysgol arloesol, flaengar sy'n meithrin ei disgyblion, yna byddem wrth ein bodd i glywed gennych.

Mae'r Llywodraethwyr yn dymuno penodi athro sy'n llawn cymhelliant ac ysbrydoliaeth ac sy'n fedrus i arwain Cam 1, Cam 2 neu Gam 3, gyda chyfrifoldeb ysgol-gyfan ychwanegol am faes pwysig ym mywyd yr ysgol fel y cwricwlwm, addysgeg neu arloesi mewn addysgu a dysgu. Mae hon yn rôl arwain bwysig, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'n Tîm Uwch-arweinwyr. font-size:12pt">Er ein bod yn croesawu ceisiadau gan athrawon sydd â phrofiad ar draws yr ystod oedran 3 i 11, bydd lleoliad yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfateb i gryfderau, profiad a dyheadau'r ymgeisydd.

Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn âr swydd wag hon, cysylltwch â Keri Smith drwy e-bost: Keri.Smith@torfaen.gov.uk neu dros y ffôn ar 01633 624170.

Dyddiad Cau: Dydd Iau 16 Ebrill 2026
Tynnu'r rhestr fer: Dydd Gwener 17 Ebrill
2026
Cyfweliadau: Dydd Mercher 22
a dydd Iau 23 Ebrill 2026

Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen . font-size:12pt">Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli. font-size:12pt">Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal. font-size:12pt">Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch âr rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.