MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Main Pay scale (M2 - M6)
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 10 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Main Pay scale (M2 - M6)
Mae'r ysgol lwyddiannus hon yn chwilio am:- 1x Athro neu Athrawes gyda chytundeb terfyn penodol 01/09/2026 i'r 31/08/2027.
- 1x Athro neu Athrawes Cyfnod Mamolaeth yn dechrau 01/09/2026.
Rydym yn chwilio am unigolion gweithgar ac egnïol i weithio fel rhan o dîm o staff ymroddgar, i gyfrannu at fywyd allgyrsiol yr ysgol ac i fod yn athro neu athrawes brwdfrydig ac ysbrydoledig.
Rhaid i'r ymgeiswyr:
- feddu ar sgiliau addysgu effeithiol ac ysgogol
- meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog yn y Gymraeg a'r Saesneg
- meddu ar sgiliau TGCh rhagorol
- bod yn ymrwymedig i ddatblygu'r ysgol yn gymuned ddysgu lwyddiannus er budd pob disgybl, gyda'r pwyslais ar ragoriaeth a chynhwysiant
- dangos ymroddiad i gefnogi datblygiad ieithyddol a diwylliannol disgyblion drwy weithgareddau allgyrsiol
- bod yn ymrwymedig i sefydlu ethos cadarnhaol wedi ei wreiddio yn y Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg
- meddu ar yr hyblygrwydd angenrheidiol i ymgymryd â gwahanol ddyletswyddau mewn ysgol sy'n datblygu.
Mae ein hysgol wedi selio ar bedwar gwerth craidd: caredigrwydd, teulu, angerddol ac uchelgeisiol.
Ein cenhadaeth ar gyfer Ysgol Panteg yw datblygu ein plant mewn sefydliad diogel a hapus lle rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd i greu dinasyddion hyderus ar gyfer y dyfodol. Rydym yn falch o roi iaith a hanes Cymru wrth galon ein haddysgu wrth gofleidio technolegau newydd a meithrin balchder yn ein cymunedau. Trwy wrando ar blant a chefnogi ein teuluoedd, byddwch yn meithrin amgylchedd parchus lle gallwn ddathlu ein llwyddiannau a helpu ein gilydd. Ein bwriad yw rhoi dechrau positif i blant i addysg gydol bywyd.
Am fanylion pellach a sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth, Dr. Matthew Williamson-Dicken. head.ysgolpanteg@torfaen.gov.uk
Mae cyfweliadau mewn person ac arsylwadau gwersi wedi'u cynllunio ar gyfer yr wythnos sy'n dechrau 22 ain o Ebrill.
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd cynnwys gwiriad Manwl gyda'Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Rydyn ni wedi cofrestru fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad gwarantu y bydd ag anableddau eu gwahodd gyfweliad, yr amod bod bodloni'gofynion hanfodol rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi drefnu ydym gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod gyfweliad.