MANYLION.
  • Lleoliad: Newtown,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 12 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro Dosbarth (Ysgol Dafydd Llwyd)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

Athro Dosbarth (Ysgol Dafydd Llwyd)
Swydd-ddisgrifiad
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon

Ysgol Dafydd Llwyd
Athro Dosbarth
SWYDD-DDISGRIFIAD
Teitl y swydd: Athro Dosbarth (Cyfnod Mamolaeth)
Lleoliad: Ysgol Dafydd Llwyd, Y Drenewydd
Graddfa: Graddfa Cyflog Athrawon
Atebol i'r: Pennaeth a'r Corff Llywodraethol
Ein Gweledigaeth
Law yn Llaw, Anelwn yn Uchel
Mae Ysgol Dafydd Llwyd yn hyrwyddo'r weledigaeth y dylai plant a staff 'Anelu'n Uchel' ym mhob peth y maent yn eu gwneud. Wrth wneud hyn, bydd pob unigolyn yn cyrraedd ei lawn botensial. Rydym fel ysgol
am adeiladu ar sylfaen gadarn y gorffennol, i ddatblygu'r presennol ac i anelu at ddyfodol llwyddiannus.
Rydym yn creu a darparu cwricwlwm creadigol, cyflawn a deinamig sydd yn ysbrydoli, tanio a chyffroi pob dysgwr. Yn ganolog i deulu'r ysgol bydd meithrin hunaniaeth a balchder tuag at ein hiaith a'n hetifeddiaeth
a hynny mewn modd angerddol. Mae Corff Llywodraethol yr ysgol yn awyddus i benodi ymarferydd rhagorol i ymuno â thîm cefnogol,
brwdfrydig a chydwybodol yr ysgol, fel athrawes ar gyfnod mamolaeth o fis Mehefin 2026 tan Mehefin 2027.
Mae croeso cynnes i ddarpar ymgeiswyr i ymweld â'r ysgol neu i gael sgwrs anffurfiol gyda mi fel pennaeth.
Cysylltwch drwy anfon ebost at pennaeth@dafyddllwyd.powys.sch.uk neu ffoniwch yr ysgol ar 01686 622162.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12fed o Ebrill 2026
Dyddiad llunio rhestr fer: 13eg o Ebrill 2026
Dyddiad cyfweliad: 2ofed o Ebrill 2026
Diolch am ddangos diddordeb yn y swydd.
Yn gywir,
Mr Darryn Green