MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ammanford, SA18 3TA
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: £20,157 - £31,158 / blwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 25 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £20,157 - £31,158 / blwyddyn
Darlithydd Prentisiaethau Iau mewn Adeiladu 0.6Application Deadline: 25 March 2026
Department: Adeiladu
Employment Type: Parhaol - Rhan Amser
Location: Campws Rhydaman
Reporting To: Deon Cyfadran a Phennaeth Cwricwlwm
Compensation: £20,157 - £31,158 / blwyddyn
DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio yn ôl y gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n sail i gynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill.
Mae'r Rhaglen Prentisiaethau Iau yn rhan o ddarpariaeth 14-16 a gyflwynir o fewn fframwaith addysg orfodol. Mae dysgwyr yn aros ar gofrestr eu hysgol gartref ac yn mynychu'r Coleg fel rhan o raglen statudol. O'r herwydd, mae'r rôl hon yn wahanol i ddarpariaeth AB ôl-16 safonol ac mae'n dwyn cyfrifoldebau ychwanegol mewn perthynas â diogelu, ymddygiad, presenoldeb ac ymgysylltiad.
Bydd dysgwyr fel arfer yn mynychu mewn carfannau bach o hyd at bymtheg a gallant gynnwys pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio o addysg brif ffrwd neu sydd angen amgylchedd dysgu hynod strwythuredig, cyson a chefnogol. Felly, disgwylir i ddeiliad y swydd fabwysiadu dulliau addysgu a rheoli ymddygiad adferol, cynhwysol ac sy'n seiliedig ar drawma.
Bydd y Darlithydd Prentisiaethau Iau mewn Adeiladu yn cyflwyno addysgu ac asesu galwedigaethol o ansawdd uchel, gan weithredu fel model rôl cadarnhaol i ddysgwyr ifanc a chefnogi eu dilyniant i addysg bellach, prentisiaethau neu gyflogaeth. Mae'r rôl yn rhan o dîm Prentisiaethau Iau ehangach, gan gydweithio'n agos â'r Anogwr Prentisiaethau Iau sy'n darparu cefnogaeth fugeiliol o ddydd i ddydd yn y dosbarth, goruchwyliaeth amser egwyl a threfnu lleoliadau gwaith.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Cyflwyno addysgu ac asesu ar gyfer cymhwyster galwedigaethol E3/L1 dynodedig sy'n addas ar gyfer dysgwyr 14-16 yn unol â gofynion y corff dyfarnu a'r Coleg
- Cynllunio a chyflwyno gwersi strwythuredig, diddorol sy'n hyrwyddo presenoldeb, cyfranogiad ac ymddygiad cadarnhaol
- Paratoi deunyddiau addysgu, dysgu ac asesu o ansawdd uchel sy'n briodol i ddysgwyr
- Cynnal asesiadau, cofnodi ac olrhain cynnydd dysgwyr gan ddefnyddio systemau'r Coleg
- Cyfrannu at brosesau gwirio mewnol a sicrhau ansawdd
- Sicrhau bod yr holl fannau addysgu a gweithgareddau ymarferol yn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch a diogelu
- Gweithio'n agos gyda'r Anogwr Prentisiaethau Iau er mwyn ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd, ymddygiadau proffesiynol a disgwyliadau yn y gweithle yn weithredol ar draws addysgu ac asesu, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd yn glir â lleoliadau profiad gwaith y dysgwyr
- Sefydlu cyfathrebu cyson a rhagweithiol gydag ysgolion, rhieni a gofalwyr i gefnogi gweithgareddau recriwtio ac i fonitro cynnydd, ymddygiad a phresenoldeb dysgwyr ar y cyd, gan sicrhau ymyrraeth gynnar lle nodir pryderon
- Trefnu a chynnal ymweliadau a theithiau addysgol, yn unol â Pholisi Ymweliadau Addysgol y Coleg, sy'n cyfoethogi'r cwricwlwm ac yn ymestyn dysgu y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth
- Cefnogi dysgwyr i gynllunio llwybrau dilyniant clir i brentisiaethau, cyfleoedd Twf Swyddi Cymru+ neu astudio pellach, gan gydweithio â thimau cwricwlwm, cyflogwyr a gwasanaethau dilyniant
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddYr Iaith Gymraeg:
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 3/4 Hanfodol
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 3/4 Hanfodol
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Hanfodol
- Gradd berthnasol neu gymhwyster Addysg Uwch/Lefel Uwch cyfwerth
- Cymhwyster addysgu
- TGAU Saesneg ac Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol parhaus priodol
- Profiad o addysgu dysgwyr 14-16
- Profiad o addysgu a dysgu galwedigaethol neu seiliedig ar waith
- Dealltwriaeth o ddarpariaeth 14-16
- Gwybodaeth a phrofiad o weithio gyda dysgwyr ag anghenion ymddygiadol neu ymgysylltiol
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda dysgwyr a chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
- Trwydded yrru gyfredol a defnydd o gar
- Parodrwydd i yrru bws mini'r coleg
- Parodrwydd i gymryd rhan mewn hyfforddiant Prentisiaethau Iau
- Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
- Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
- Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
- Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
- Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
- Parodrwydd i gyfrannu at ddatblygu gweithgareddau allgyrsiol
Buddion
- Byddwch yn cael 27.6 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 40.6 diwrnod o wyliau y flwyddyn.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 23.68% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein