MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £51,942 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 12 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Cynllun Pontio- Ysgol Dyffryn Nantlle

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £51,942 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD
YSGOL DYFFRYN NANTLLE, PENYGROES
(cyfun 11 - 18; 428 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 1af o Fedi, 2026.

ATHRO / ATHRAWES (DROS DRO)

Cytundeb dros dro am flwyddyn hyd at 31/8/2027 yn unig yw hwn.

Pynciau: Gwyddoniaeth, Mathemateg, Addysg Gorfforol, Saesneg a Thechnoleg.

Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod gan athrawon egnïol a brwdfrydig. Bydd y sawl a benodir yn cael ei gyflogi dan y Cynllun Pontio Cynradd-Uwchradd Llywodraeth Cymru. Gweler y manylion pellach (swydd ddisgrifiad) am fwy o fanylion am y cynllun.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£33,731 - £51,942) yn ôl profiad a chymwyster (pro rata os yw'r swydd yn rhan amser).

Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mrs Rhian Parry Jones drwy e-bostio Pennaeth@dyffrynnantlle.ysgoliongwynedd.cymru neu ffonio 01286 880345

Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i'r ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi'r ffurflen gais sydd wedi'i atodi i'r hysbyseb hon gan nodi eich dymuniad o ran lleoliad. Anfonwch eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru trwy AthrawonCC.WMTeachers@llyw.cymru erbyn y dyddiad cau, sef 23:59 Dydd Sul, 12 Ebrill 2026.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

(The above is an advertisement for a temporary post for a Teacher at Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes who will be employed under the Primary to Secondary Welsh-medium Conversion Programme for which the ability to teach through the medium of Welsh and English is essential. The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school .).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

Swydd: Athro / Athrawes

Graddfa Cyflog Athrawon

Mae'r ysgol yn awyddus i benodi Athro / Athrawes Cynradd profiadol neu athro sydd wedi bod allan o'r proffesiwn, sydd â diddordeb mewn trosglwyddo i'r sector uwchradd cyfrwng Cymraeg fel rhan o gynllun pontio Llywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o'r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu Ysgol Dyffryn Nantlle am flwyddyn gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd. Gwahoddwn geisiadau gan athrawon brwdfrydig a blaengar o'r sector cynradd sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol uwchradd. Yn ogystal, croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i ddysgu yng Nghymru neu athrawon sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn.

Mae Ysgol Dyffryn Nantlle yn ysgol ddynodedig Gymraeg sydd wedi ei lleoli ym Mhenygroes, Gwynedd. Ar hyn o bryd, mae 401 o ddysgwyr yn yr ysgol gan gynnwys 39 o fyfyrwyr Chweched Dosbarth. Y mae i'r ysgol naws ofalgar a theuluol ac ethos gynhwysol. Rydym yn ymfalchïo yn ein tîm brwdfrydig a gweithgar o staff sydd yn angerddol am gynnig y ddarpariaeth, y gefnogaeth a'r profiadau gorau i'n dysgwyr. Gyda'n gilydd rydym yn anelu at greu ysgol uwchradd gynhwysol unigryw sy'n sicrhau llwyddiant personol i'w holl ddisgyblion a'i staff mewn awyrgylch gefnogol a diogel. "Nunlle fel Nantlle"- Llwyddo Gyda'n gilydd!

Mae'r cynllun peilot yn cynnig blwyddyn o gyflogaeth yn Ysgol Dyffryn Nantlle i arsylwi ac addysgu o fewn pwnc neu bynciau arbenigol. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor byddwch yn derbyn cefnogaeth i drosglwyddo'n llwyddiannus i addysgu yn y sector uwchradd. Bydd ffocws penodol ar yr agweddau canlynol:

  • Cynllunio gwersi
  • Asesu, marcio ac adborth
  • Rheolaeth ddosbarth
  • Datblygu dycnwch
  • Sgiliau ieithyddol (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn).

Bydd gennych Gefnogwr Proffesiynol o fewn yr ysgol a fydd yn cynnal deialog broffesiynol rheolaidd er mwyn eich cefnogi. Bydd eich amserlen yn cynnig cyfnodau estynedig i gynllunio, ymchwilio ac arsylwi yn ogystal ag amserlen ddysgu.

Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd â gweledigaeth gadarn dros ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a llwyddiannus. Mae'r cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.

Mae'r cynllun hwn wedi'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac ar gael i ymgeiswyr ar draws Cymru.

Proses ymgeisio:

Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i'r ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi'r hysbyseb hon gan nodi eich dymuniad o ran lleoliad. Anfonwch eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru trwy AthrawonCC.WMTeachers@llyw.cymru erbyn y dyddiad cau, sef 23:59 dydd Sul, 12 Ebrill 2026.

Mae mwy o fanylion am y cyfle hwn ar Cynllun pontio cynradd i uwchradd cyfrwng Cymraeg neu os hoffech drefnu ymweliad â'r ysgol neu sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth, Mrs Rhian Parry Jones, ar pennaeth@dyffrynnantlle.ysgolion gwynedd.cymru neu ffoniwch 01286 880345.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi