MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Glan y Môr, Pwllheli,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 23 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
ManylionHysbyseb Swydd
YSGOLION UWCHRADD
Ysgol Glan y Môr, Pwllheli
(Ysgol Gyfun 11 - 16: 507 o ddisgyblion)
Yn eisiau: ar gyfer Mor fuan a phosib.
Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 3
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.
Mae hwn yn gyfle da i unigolyn gael profiad o weithio mewn amgylchedd ysgol uwchradd.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig a gweithgar i gyfrannu at waith yr ysgol. Prif bwrpas y swydd yw arolygu dosbarthiadau yn ystod absenoldeb athrawon am gyfnodau byr. Nid yw hyn yn cynnwys cyfrifoldeb am addysgu.
Oriau gwaith: 33 awr yr wythnos
(39 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant)
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7 - 11 (£20,273 - £21,608 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth Mr Huw Emyr Williams.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mr Robin Llywelyn Roberts, Rheolwr Busnes, Ysgol Glan Y Mor, Ffordd Caerdydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5NU Rhif ffôn: 01758 701244
Ebost: sg@glanymor.ysgoliongwynedd.cymru
Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: 12:00 Y.P, DDYDD LLUN, 23 MAWRTH, 2026.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
.
Swydd Ddisgrifiad
Prif ddyletswyddau:
Cefnogaeth i ddisgyblion.
- Cefnogaeth fugeiliol i'r disgyblion
- Cynnal darpariaeth sy'n derbyn a goruchwylio disgyblion sy'n cael eu heithrio o wersi, neu ddisgyblion sydd ddim yn dilyn amserlen arferol.
- Ymateb i anghenion personol y disgyblion gan gynnwys anghenion cymdeithasol, iechyd a lles.
- Cyfrannu at weithredu ac ymateb i Gynlluniau Datblygu Unigol a chynlluniau ymddygiad neu Raglenni Cymorth Bugeiliol y disgyblion yn ôl yr angen.
- Sicrhau cefnogaeth briodol i ddisgyblion o bob gallu.
- Sicrhau perthynas waith effeithlon gyda'r disgyblion gan weithredu fel model rôl briodol
- Hyrwyddo trosglwyddiad buan yn ôl i wersi pan fo ymddygiad disgybl wedi bod yn destun pryder.
- Ysgogi disgyblion yn yr uned a dylanwadu'n bositif ar eu hunan ddelwedd.
- Rhoi adborth i benaethiaid blwyddyn ,athrawon a rhieni ar gynnydd, ymddygiad, llwyddiant yn unol â'r gofyn.
Cefnogaeth i athrawon
- Cyflenwi rhai gwersi fel bo'r angen yn ystod absenoldeb athrawon
- Cefnogi'r disgyblion i sicrhau bod y disgyblion yn cael mynediad at adnoddau a strategaethau priodol i ganiatáu iddynt ddysgu
- Cydweithio â'r athrawon i baratoi a chynllunio adnoddau dysgu ar gyfer disgyblion sy'n briodol i'w anghenion
- Cyfrannu at fonitro ac arfarnu cynnydd y disgyblion
- Cynnig adborth cywir i athrawon ac aelodau o'r tîm bugeiliol / UDA ar gynnydd disgyblion ac unrhyw faterion perthnasol eraill
- Cefnogi a gweithredu strategaethau hyrwyddo ymddygiad da yr ysgol a rhai penodol o fewn y ddarpariaeth
- Sefydlu perthynas waith positif gyda'r athrawon
Cefnogaeth i'r ysgol
- Cyfrannu'n bositif at ethos , gwaith a nodau'r ysgol
- Cadw at bolisïau'r ysgol parthed materion amddiffyn plant, cyfrinachedd, materion iechyd a diogelwch.
- Mynychu a chyfrannu i gyfarfodydd yn unol â'r gofyn.
- Manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu'n broffesiynol.
- Cydweithio ag asiantaethau allanol a gyda darpariaeth gynhwysiant yr Awdurdod er budd y disgyblion
Sgiliau a rhinweddau personol hanfodol i'r swydd.
- Profiad o weithio gyda phobl ifanc
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGCH da
- Y gallu i gydweithio yn bositif ag oedolion amrywiol
- Y gallu i gydweithio'n bositif ag amrywiaeth o ddisgyblion
- Gallu rheoli amser
- Gallu gweithio dan bwysau
- Prydlondeb a phresenoldeb ardderchog
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi