MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: MPS\/UPS plus TLR (£7,558)
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 20 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: MPS\/UPS plus TLR (£7,558)
Rydym wrth ein bodd eich bod wedi dangos diddordeb yn swydd Athro Cyfrifiadura.Rydym yn chwilio am unigolyn cryf, adfyfyriol a chydnerth, a fydd yn integreiddio'n hwylus i'r tîm ac yn rhan annatod o'n llwybr at lwyddiant.
Mae ein hysgol ar gam pwysig ar ei siwrnai wella, ac rydym yn awyddus i benodi aelod effeithiol iawn o staff sydd â'r profiad, yr ymrwymiad a'r ysfa i godi safonau a gwella'r ddarpariaeth ar draws yr ysgol, i sicrhau bod pob disgybl yn ffynnu ac yn llwyddo.
Dyma gyfle cyffrous ac unigryw a bydd yn brofiad gwerth chweil i ymuno â chymuned ysgol groesawgar sy'n adeiladu tuag at ddyfodol llwyddiannus.
Mae gennym ddyheadau a disgwyliadau uchel i bawb. Ein nod yw darparu profiad dysgu ac addysgu sydd o ansawdd sy'n gyson uchel, a hynny ar gyfer pob disgybl, mewn diwylliant lle mae llesiant staff a disgyblion yn hollbwysig.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob un o'n disgyblion yn datblygu fel unigolion llwyddiannus, o'n disgyblion mwyaf agored i niwed i'n disgyblion mwy abl a thalentog. Rydym yn cydnabod bod gofyn personoli dysgu'r disgyblion i ddiwallu eu hanghenion penodol, os am sicrhau eu bod yn cyflawni eu potensial. Rydym yn cydnabod hefyd fod dysgu yn fwy na chyrhaeddiad academaidd. Dylai ei ffocws fod ar ddatblygu'r plentyn cyfan, gan gynnwys eu datblygiad personol. Yn anad dim, rydym yn ymdrechu i fod yn ysgol lle mae dysgu'n cael ei werthfawrogi, lle mae disgyblion yn cyrraedd eu potensial mewn cymuned hapus a diogel lle maent yn dangos parch a goddefgarwch at eraill, ac adlewyrchir hyn yn ein Datganiad Cenhadaeth, &slshquot;Ymdrechu, Credu, Cyflawni&slshquot;.
 ninnau'n ysgol gynhwysol, gwerthfawrogir pob aelod o gymuned ein hysgol. Rydym yn disgwyl y gorau gan bawb, waeth a ydy disgyblion yn fwy abl yn academaidd neu'n dalentog mewn chwaraeon neu'r celfyddydau neu fod ganddynt anghenion ychwanegol. Rydym yn ymrwymo i sicrhau'r siwrnai ddysgu orau bosibl i bob unigolyn, gan feithrin eu gallu i ddod yn ddysgwyr medrus, gydol oes sy'n ddinasyddion cymdeithasol ymwybodol, iach a gweithgar.
Mae datblygiad proffesiynol staff yn hanfodol i'n siwrnai wella. Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi'n drwm mewn pecyn o gymorth perthnasol ac ystyrlon i staff, sydd wedi ei deilwra at anghenion unigol.
Dyma gyfle gwych i athro rhagorol sydd âr egni, yr ysfa a'r set sgiliau i sicrhau bod profiadau dysgu o ansawdd uchel yn cael eu darparu ar draws yr ysgol a llunio diwylliant o ragoriaeth.
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon neu i ymweld a'r ysgol yn anffurfiol, cysylltwch â fi i drafod y cyfle hwn ymhellach: Matthew.sims@cwmbranhigh.school
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a bydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau y mae gweithlu amrywiol yn dod a nhw ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli.
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'n Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal. font-size:12pt">Rydym wedi ein cofrestru fel Cyflogwr sy'n Hyderus o ran Anabledd ac rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl a chynnig datblygiad gyrfa i bobl anabl. Mae ein cynllun Gwarant o Gyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, cyn belled âu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes cyflwr iechyd arnoch, os ydych chi'n niwrowahanol, neu'n defnyddio iaith arwyddion Prydain, ac angen trafod addasiadau rhesymol, cysylltwch âr rheolwr recriwtio. Gallwn ni weithio gyda chi i drefnu addasiadau ond mae'n rhaid i ni gael gwybod beth yw eich gofynion cyn i chi gyflwyno'ch cais, neu cyn eich prawf neu gyfweliad.