MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Abermule,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Blank
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 22 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro Dosbarth Cyfnod Allweddol 2 (Ysgol Gynradd Abermiwl)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Blank
Athro Dosbarth Cyfnod Allweddol 2 (Ysgol Gynradd Abermiwl)Swydd-ddisgrifiad
Dyddiad cychwyn 01.09.2026
Prif Gyfrifoldebau:
Ethos yr Ysgol
- Cynnal a gweithredu gweledigaeth a nodau'r ysgol a gytunwyd;
- Hyrwyddo lles disgyblion bob amser;
- Hyrwyddo cyfle cyfartal mewn amgylchedd dysgu sy'n gynhwysol;
- Sicrhau safon uchel o ofal corfforol ac emosiynol i bob disgybl;
- Gwella datblygiad moesol, ysbrydol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion yn y dosbarth ac yn ystod gwasanaethau ysgol;
- Hyrwyddo ymddygiad da, parch y disgyblion at ei gilydd a rheolau'r ysgol;
- Bod â'r nod o feithrin hunanddisgyblaeth ym mhob disgybl; disgwyl ymddygiad da a chwrteisi gan bob disgybl;
- Gweithredu holl bolisïau a gweithdrefnau'r ysgol gyfan;
- Hyrwyddo datblygiad y Gymraeg a dealltwriaeth disgyblion o Gymru, ei threftadaeth a'i diwylliant;
- Adrodd ar anghenion lles, cymdeithasol a phersonol disgyblion unigol wrth y Pennaeth.
- Paratoi cynlluniau cwricwlwm tymor hir, tymor canolig a thymor byr, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ofynion y Cwricwlwm Cymreig Newydd, y Fframwaith Cymhwysedd Digidol (DCF) a mentrau/fframweithiau/cynlluniau'r Cynulliad Cenedlaethol ym maes addysg;
- Cynhyrchu cynlluniau gwersi wythnosol a gwerthuso cynnydd disgyblion;
- Nodi anghenion disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (AAA, Mwy Abl a Dawnus a Saesneg fel Iaith Ychwanegol) o fewn cynlluniau gwersi wythnosol a gwahaniaethu tasgau yn unol â hynny. Cysylltu'n rheolaidd â'r Cydlynydd ADY ac ystyried CAU pob disgybl.
- Cynllunio, paratoi a chyflwyno gwersi sy'n bodloni anghenion pob disgybl yn y dosbarth;
- Creu amgylchedd ystafell ddosbarth cadarnhaol, trefnus ac ysgogol lle mae disgyblion yn cael eu herio a lle disgwylir iddynt roi o'u gorau; disgwyliadau uchel o bob plentyn a chyfleu hyn iddynt;
- Ymgyfarwyddo disgyblion ag arferion a chyfrifoldebau'r ystafell ddosbarth;
- Marcio gwaith yn rheolaidd a rhoi adborth adeiladol i ddisgyblion, ar lafar ac yn ysgrifenedig, fel y bo'n briodol;
- Sicrhau bod gwaith y plant yn cael ei arddangos i safon uchel;
- Gwneud defnydd effeithiol o adnoddau'r ystafell ddosbarth a chadw'r ysgol a'r ystafelloedd dosbarth yn daclus ac yn drefnus;
- Diogelu iechyd a diogelwch plant pan fyddant yn y dosbarth, pan fyddant ar safle'r ysgol ac yn ystod gweithgareddau y tu allan i'
- Cadw cofnodion dyddiol o bresenoldeb disgyblion.
- Mae'n ofynnol i'r swydd hon gael Gwiriad DBS Manylach