MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Heb ei ddarparu
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 01 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion

Cyngor Sir Fynwy
Hysbyseb Swydd
Mae Cysgod y Coed (gynt Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion Sir Fynwy) yn wasanaeth
twf sy'n gweithio wrth ochr yr Awdurdod Lleol i barhau i ymdrechu am ragoriaeth
mewn darpariaeth sy'n rhoi blaenoriaeth i lesiant. Dymunwn benodi ymarferydd
rhagorol ar gyfer ein gwasanaeth. Gwahoddir ceisiadau gan athrawon blaengar a
brwdfrydig sy'n ymroddedig i gynhwysiant.
Mae Cysgod y Coed yn ymroddedig i ddatblygu potensial yr holl staff a disgyblion.
Mae rhaglen lawn o hyfforddiant a chymorth yn helpu i feithrin yr ymarfer ystyriol o
drawma ac adferol y gwyddom sy'n sail i addysgeg gadarn. Bydd yr ymgeisydd
llwyddiannus yn gwneud cyfraniad sylweddol i ddiwygio'r cwricwlwm ac arfer
cynhwysiant o fewn tîm profiadol, agored a chydweithiol.

Post Manylion
CYFLOG - GWYBODAETH BWYSIG: Byddai'r cyflog yn pro rata os nad ydych yn gweithio oriau llawn-amser neu 52 wythnos y flwyddyn h.y. oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Athrawon yw 32.5 awr yr wythnos. Mae oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Corfforaethol yn 37 awr yr wythnos.

Dyddiad Gorffen Dros Dro (os yn berthnasol): 31/08/2027

Lleoliad: Monmouthshire Pupil Referral Unit South, Mathern, NP16 6LA, United Kingdom. Gall hyn newid yn y dyfodol os oes angen i leoliad y gwasanaeth adleoli. Ni fyddir yn alu treuliau adleoli neu darfu os yw hyn yn digwydd.

Yn ystod y Tymor yn unig - Wythnos y Flwyddyn (os yn berthnasol):

GWIRIAD GAN Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD:
Bydd apwyntiad i'r rôl hon wedi ei eithrio o'r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac yn amodol ar y gwiriad canlynol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: Enhanced with Children Barred List Check

ASESIAD O'R GYMRAEG: Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Cyswllt Recriwtio: Os ydych angen mwy o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â: Jake Parkinson / jacobparkinson@monmouthshire.gov.uk