MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Friars, Bangor,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £24,227 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 20 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cyllid - Ysgol Friars

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £24,227 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

Yn eisiau: ar gyfer : Cyn gynted a phosib.

SWYDDOG CEFNOGI CYLLID

PARHAOL

Mae'r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi person ymroddedig a brwdfrydig sydd yn barod i fod yn rhan o dîm egnïol a gweithgar

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos

(39 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol a 5 diwrnod mewn hyfforddiant)

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4, pwyntiau 7 - 11 sef £22,730 - £24,227 y flwyddyn yn ôl profiad a chymhwyster.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol efo Mrs Bethan Thomas, Rheolwr Busnes. Rhif ffôn: 01248 364905

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan yr Arweinydd Prosiect, Ms Bethan Roberts, Ysgol Friars, Lon y Bryn, Bangor, Gwynedd, LL57 2LN. Rhif ffôn: 01248 364905;

e-bost: pennaeth@friars.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd ynghyd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

DYDDIAD CAU: 10:00yb, DYDD, DYDD GWENER, 20 MAWRTH 2026.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

Cymwysterau

Hanfodol
•Addysg hyd at lefel TGAU gydag o leiaf 5 A*-C gan gynnwys Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth)

Dymunol
•Cymwysterau galwedigaethol yn ymwneud â Chyllid
•Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
•Cymhwyster addysg bellach ffurfiol a/neu radd mewn disgyblaeth berthnasol (dymunol)

Profiad

Hanfodol:
•Gwybodaeth ymarferol o raglenni Microsoft Office
• Casglu a dadansoddi gwybodaeth
•Ymwybyddiaeth o'r egwyddorion y tu ôl i Ddiogelu Data a GDPR

Dymunol:
•Gweithio mewn amgylchedd addysgol
•Profiad o feddalwedd SIMS
•Profiad o weithio ym maes rheoli data
•Profiad o waith swyddfa a gweinyddol cyffredinol
•Profiad o sefydliadau addysg uwch

Sgiliau:

Hanfodol:
•Sgiliau TGCh da.
•Y gallu i ganolbwyntio ar fanylder a chywirdeb wrth lunio adroddiadau.
•Y gallu i wneud gwaith ffigur manwl yn gyflym ac yn gywir;
•Sgiliau cyfathrebu rhagorol
•Sgiliau trefnu a chynllunio rhagorol gan gynnwys y gallu i fod yn hyblyg er mwyn cyrraedd targedau.
•Y gallu i weithio i derfynau amser.
•Y gallu i ffurfio perthynas waith dda gyda chydweithwyr a chyrff allanol.
•Brwdfrydig, arloesol a blaengar.

Dymunol:
•Y gallu i weithio gyda thîm amrywiol o staff.
•Y gallu i weithio i safonau proffesiynol, i gynnal cyfrinachedd, i ddatblygu perthnasoedd gwaith effeithiol, i feddwl yn annibynnol ac i wneud penderfyniadau ac i ddylanwadu ar eraill trwy berswâd/trafodaeth
•Y gallu i weithio fel rhan o dîm, i gymryd cyfeiriad a defnyddio menter i flaenoriaethu gwaith
•Meddu ar sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig da wrth ddelio â chydweithwyr, disgyblion, rhieni neu asiantaethau allanol
•Y gallu i ddatblygu sgiliau newydd a gwneud defnydd o raglenni meddalwedd anghyfarwydd
•Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg

Swydd Ddisgrifiad

SWYDDOG CEFNOGI CYLLID

SWYDD DISGRIFIAD

37 awr yn ystod y tymor yn unig

Cyflog GS4 (7 i 11) pro rata.

Yn atebol i: Rheolwr Busnes

Lefel Datgelu: UWCH

Yr hyn sy'n dilyn yw rhestr o gyfrifoldebau y gall fod yn ofynnol i ddeiliad y swydd yn Ysgol Friars eu cyflawni. Mae'n cynrychioli cytundeb rhwng rheolwyr yr ysgol a deiliad y swydd a all fod yn destun ail-negodi gan y naill barti neu'r llall pe bai newid yn y rheolwyr neu benodai newydd. Mae'r rhestr ymhellach yn cynrychioli rhestr o gyfrifoldebau na ellir eu cyflawni ar yr un pryd ac sydd felly'n amodol ar flaenoriaethu gan reolwyr yr ysgol neu ofynion amrywiol gwahanol gyfnodau o'r flwyddyn academaidd. Mae hefyd yn amodol ar delerau contract y sawl a benodir ac unrhyw gytundebau lleol gyda'r ALl.

Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac yn disgwyl i'r holl staff a'r gwirfoddolwyr i rannu'r ymrwymiad hwn.

RHEOLAETH: Yn atebol i'r Rheolwr Busnes a'r Uwch Dîm Arwain.

PWRPAS Y SWYDD & PRIF DDYLETSWYDDAU
  • Cynorthwyo gyda'r gweithdrefnau gweinyddu ariannol dan gyfarwyddyd y Rheolwr Busnes i gynnwys paratoi arian parod/sieciau ar gyfer bancio yn ôl yr angen; a theithiau i'r banc.
  • Bod yn gyfrifol am weinyddu Cyfrif Cronfa'r Ysgol dan gyfarwyddyd y Rheolwr Busnes, gan gynnwys paratoi arian parod/sieciau ar gyfer bancio dyddiol, bilio, casglu arian, sicrhau bod arian yn cael ei storio; cysoniad banc.
  • Bod yn gyfrifol am agweddau cyllidol y Cynllun Dysgu Offerynnol;
  • Bod yn gyfrifol am bob agwedd ar osod safle ysgol i'r gymuned;
  • Cynorthwyo'r Rheolwr Busnes gyda'r broses archebu a thalu anfonebau; gan gynnwys cerdyn credyd a chysoniad.
  • Goruchwylio a gweinyddu'r holl daliadau am deithiau ysgol a gweithgareddau oddi ar y safle, gan sicrhau bod unrhyw daliad yn cael ei wrth-awdurdodi gan y rheolwr llinell priodol;
  • Ymchwilio a chael copïau digidol o'r cyfryw ddogfennau ag sy'n ofynnol dan gyfarwyddyd y Pennaeth;
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau a ddyrennir yn rhesymol gan y Rheolwr Busnes neu aelod o'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth
  • Cydlynu'r drefn archebu ar gyfer neuadd yr ysgol, y neuadd chwaraeon ar galendrau mewnol ac allanol yr ysgol.

  • Cydlynu archebion ar gyfer bws mini'r ysgol a chynorthwyo'r Cydlynydd Iechyd a Diogelwch i sicrhau'r archwiliadau/gwiriadau angenrheidiol

  • Goruchwylio agweddau cyllidol lluniau'r ysgol wrth dalu a dosbarthu.

  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy'n berthnasol i'r swydd, ac a ddyrennir yn rhesymol, gan y Rheolwr Busnes neu aelod o'r Uwch Dîm Arwain.

  • Cyffredinol
    • Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
    • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol.
    • Gweithredu o fewn polisïau'r ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
    • Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau'r ysgol. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
    • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
    • Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.


    • Ceisio ar lein - Sut?
    • Rhestr Swyddi