MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Heb ei ddarparu
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 01 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Ymgysylltu â Disgyblion

Cyngor Sir Fynwy
Hysbyseb SwyddRydym yn edrych am athro/athrawes Swyddog Ymgysylltu â Disgyblion medrus ac ymroddedig iawn ar gyfer cyfle cyffrous i ddatblygu darpariaeth bwrpasol ymhellach ar gyfer dysgwyr o fewn y Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion. Mae'r Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion Sir Fynwy yn wasanaeth twf sy'n gweithio wrth ochr yr Awdurdod Lleol i ymdrechu am ragoriaeth mewn darpariaeth sy'n rhoi blaenoriaeth i lesiant. Dymunwn benodi ymarferydd rhagorol ar gyfer ein Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda disgyblion sy'n cyflwyno anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl. Mae Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion Sir Fynwy yn ymroddedig i ddatblygu potensial yr holl staff a disgyblion. Mae rhaglen lawn o hyfforddiant a chymorth yn helpu i feithrin yr ymarfer ystyriol o drawma ac adferol y gwyddom sy'n sail i addysgeg gadarn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu'n sylweddol at gefnogi ein disgyblion mewn tîm profiadol, agored a chydweithiol. Mae ein Swyddogion Ymgysylltu â Disgyblion yn: • Meithrin perthynas broffesiynol o ymddiriedaeth gyda disgyblion, rhieni a gofalwyr. • Gweithio'n effeithlon gydag athrawon ac eraill i ddarganfod yr hyn y gall disgyblion ei gyflawni. • Darparu eiriolaeth i ddisgyblion a gwella eu hunan-dyb. • Codi uchelgais a hunan-gred disgyblion. • Hyrwyddo llesiant a iechyd meddwl da. • Ystyriol o drawma ac adferol yn eu hymarfer. • Cyflwyno sesiynau un-i-un a grŵp bach gyda dysgwyr. • Cefnogi dysgwyr i gyflawni amrywiaeth o wahanol gymwysterau mewn cysylltiad ag athrawon ac arweinwyr y Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion.
Post Manylion
CYFLOG - GWYBODAETH BWYSIG: Byddai'r cyflog yn pro rata os nad ydych yn gweithio oriau llawn-amser neu 52 wythnos y flwyddyn h.y. oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Athrawon yw 32.5 awr yr wythnos. Mae oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Corfforaethol yn 37 awr yr wythnos. Dyddiad Gorffen Dros Dro (os yn berthnasol): 31/08/2028 Lleoliad: Monmouthshire Pupil Referral Unit South, Mathern, NP16 6LA, United Kingdom. Gall hyn newid yn y dyfodol os oes angen i leoliad y gwasanaeth adleoli. Ni fyddir yn alu treuliau adleoli neu darfu os yw hyn yn digwydd. Yn ystod y Tymor yn unig - Wythnos y Flwyddyn (os yn berthnasol): 39 GWIRIAD GAN Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD: Bydd apwyntiad i'r rôl hon wedi ei eithrio o'r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac yn amodol ar y gwiriad canlynol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: Enhanced with Children Barred List Check ASESIAD O'R GYMRAEG: Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol Cyswllt Recriwtio: Os ydych angen mwy o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â: Jake Parkinson / jacobparkinson@monmouthshire.gov.uk