MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Lampeter,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: 33,731 - 51,942 *
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 19 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 33,731 - 51,942 *
Ynglŷn â'r rôlDiolch mawr am ddangos diddordeb mewn swydd addysgu Cemeg yn Ysgol Bro Pedr.
Mae'r ysgol yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn un o ysgolion cyntaf 3-19 Cymru, ac yn torri tir newydd o ran darparu addysg gydol oed ar gyfer ein disgyblion. Mae Ysgol Bro Pedr yn gyfuniad o ddwy ysgol flaenorol, sef Ysgol Gynradd Ffynnonbedr ac Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan. Cafodd Ysgol Bro Pedr ei harolygiad Estyn diwethaf yn Hydref 2016. Er bod nifer o ddisgyblion yn cychwyn yn yr ysgol yn 3 oed, daw nifer yn ogystal o ysgolion cynradd partner eraill o'r Awdurdod Lleol ac o Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin. Mae 960 o ddisgyblion ar rôl yr ysgol - 321 o ddisgyblion Meithrin i flwyddyn 6 a 639 o ddisgyblion Blwyddyn 7-13 (sy'n cynnwys 67 o ddisgyblion ym mlwyddyn 12 a 69 o ddisgyblion ym mlwyddyn 13).
Daw 69.4% o ddisgyblion yr ysgol o gartrefi lle nas defnyddir y Gymraeg. Mae'r disgyblion yn cael eu ffrydio'n ieithyddol, gyda dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg a dosbarthiadau Cymraeg Ail-Iaith ym mlynyddoedd 3-13. Mae'r ysgol wedi mynd trwy ymgynghoriad llwyddiannus yn ddiweddar sy'n golygu bod disgyblion y Cyfnod Sylfaen i gyd yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Ar hyn o bryd, mae 24.5% o'n disgyblion yn hawlio prydiau ysgol am ddim (20.97% o'n disgyblion oed uwchradd a 31.7% o'n disgyblion oed cynradd). Mae'r ysgol yn darparu ar gyfer ystod lawn o alluoedd. Mae 11.02% o'n disgyblion ȃ Saesneg fel Iaith Ychwanegol, sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Mae'r ganran yn uwch o fewn yr oed cynradd (12.46%) o'i gymharu â'r oed uwchradd (10.32%). Mae proffil poblogaeth yr ysgol yn gosmopolitan, gyda Chymry cynhenid Ceredigion a Sir Gâr, canran uchel o siaradwyr Cymraeg, ond sydd o gefndir Seisnig, nifer gynyddol o ddisgyblion sy'n hwyrddyfodiaid i'r ardal a'r ysgol a chanran sylweddol o ddisgyblion o Wlad Pwyl, Rwmania a chanran llai o ddisgyblion o Falaysia a China.
Lleolir Canolfan Y Bont, sef adnodd sirol ar gyfer disgyblion o oed uwchradd ag anghenion amrywiol (ASD, SLD, PMLD, MSI), ar safle'r ysgol. Mae'r ganolfan yn rhan lawn o'r ysgol, ac mae'r disgyblion ar rôl Ysgol Bro Pedr. Yn ogystal, sefydlwyd Uned Sgiliau Bywyd sy'n darparu ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol lled ddwys a disgyblion ymddygiadol bregus a chyniga barhad a dilyniant i rai o ddisgyblion Canolfan y Bont lle'n berthnasol ac ymarferol. Mae yna 11 o ddisgyblion yn mynychu Canolfan Y Bont a 22 o ddisgyblion yn mynychu'r Uned Sgiliau Bywyd, ar hyn o bryd.
Ym mis Medi 2026, mi fydd Tîm Arwain Ysgol Bro Pedr yn cynnwys: Pennaeth, Dirprwy Bennaeth, dau Bennaeth Cynorthwyol, Arweinydd Lles ac Arweinydd Cynnydd.
Pecyn Gwybodaeth
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant