MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £35,675 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 20 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/awes Di-gymhwyster Technoleg (Ysgol Dyffryn Nantlle)

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £35,675 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADRAN ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL DYFFRYN NANTLLE, PENYGROES

(Cyfun 11 - 18; 430 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 1 Medi, 2026

ATHRO/ ATHRAWES CYMRAEG, SAESNEG, GWYDDONIAETH, MATHEMATEG A THECHNOLEG (Hyfforddi fel Athro Uwchradd)

Cytundeb dros dro am ddwy flynedd hys at 31/08/2028 yn unig yw hwn.

Mae'r Ysgol yn awyddus i benodi Athro/Athrawes Technoleg (Hyfforddi fel Athro Uwchradd) 5 swydd wahanol - gweler gweddill yr hysbysebion am fwy o fanylion.

Mae'r cynllun hwn wedi'i gefnogi gan Y Brifysgol Agored.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon Digymhwyster (£22,685 - £35,675) y flwyddyn yn ôl profiad a chymwysterau.

Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mrs Rhian Parry Jones 01286 880345 neu pennaeth@dyffrynnantlle.ysgoliongwynedd.cymru

Am nrhyw gwestiynau neu ragor o wybodaeth am y rhaglen, anfonwch e-bost at Dîm TAR Cymru: TAR-Cymru@open.ac.uk neu ewch i: TAR | Tystysgrif Addysg i Raddedigion yng Nghymru | Open University

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Ms. Elen Williams, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6AA, (Rhif ffôn 01286 880345)

e-bost: sg@dyffrynnantlle.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD GWENER, 20fed o Fawrth, 2026.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

Manylion Person

Nodweddion personol:
•Argyhoeddiad y gall pob person ifanc fod yn ddysgwyr llwyddiannus ac effeithiol, yn enwedig pan fyddant yn ffurfio perthynas gadarnhaol ag oedolion
•Gallu ar gyfer gwaith caled a gwydnwch
•Sgiliau trefnu rhagorol, gan gynnwys sgiliau rheoli amser a chwrdd â therfynau amser
•Awydd gwirioneddol i fod bob amser yn well fel ymarferwr, gan gynnwys ymateb yn gadarnhaol i adborth a chymryd rhan lawn mewn cyfleoedd dysgu proffesiynol
•Lefel uchel o broffesiynoldeb fel rhan o fod yn fodel rôl cadarnhaol i bobl ifanc
•Mwynhad o fod yn rhan o ethos tîm a dysgu ohono

Am fwy o wybodaeth a/neu am ffurflen gais, cysylltwch â Ms Elen Williams, y Swyddog Gweinyddol. sg@dyffrynnantlle.ysgoliongwynedd.cymru

i'w dychwelyd i'r ysgol at sylw:
Mrs Rhian Parry Jones (Pennaeth), Ysgol Dyffryn Nantlle, Heol y Brenin, Penygroes, Gwynedd, LL54 6AA,
Rhif ffôn: 01286 880345
e-bost : pennaeth@dyffrynnantlle.ysgoliongwynedd.cymru

Croesawir ceisiadau am sgyrsiau anffurfiol gyda'r Pennaeth
yn ogystal â'r Pennaeth Adran.

DYDDIAD CAU: Hanner dydd, 20fed o Fawrth, 2026
(Bwriedir cynnal y cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 23/03/26)

Swydd Ddisgrifiad

Ysgol Dyffryn Nantlle

(This is an advertisement for an opportunity to train as a secondary SUBJECT teacher through the Open University at Ysgol Dyffryn Nantlle. All candidates are required to be fluent in both Welsh and English).

Athro Technoleg

Dyma gyfle i hyfforddi fel athro uwchradd drwy'r Brifysgol Agored TAR WEDI EI ARIANNU'N LLAWN (rhaglen 2 flynedd)

Graddfa Cyflog: Statws Athro Digymhwyster Pwynt 1(£22,685)

Yn eisiau erbyn: Medi 2026

Mae Ysgol Dyffryn Nantlle yn ysgol ddynodedig Gymraeg sydd wedi ei lleoli ym Mhenygroes, Gwynedd. Ar hyn o bryd, mae 428 o ddysgwyr yn yr ysgol gan gynnwys 51 o fyfyrwyr Chweched Dosbarth. Y mae i'r ysgol naws ofalgar a theuluol ac ethos gynhwysol. Rydym yn ymfalchïo yn ein tîm brwdfrydig a gweithgar o staff sydd yn angerddol am gynnig y ddarpariaeth, y gefnogaeth a'r profiadau gorau i'n dysgwyr. Gyda'n gilydd rydym yn anelu at greu ysgol uwchradd gynhwysol unigryw sy'n sicrhau llwyddiant personol i'w holl ddisgyblion a'i staff mewn awyrgylch gefnogol a diogel. "Nunlle fel Nantlle"- Llwyddo Gyda'n gilydd!

Mae'r ysgol yn cynnig cyfle arbennig i unigolyn trwy raglen bartneriaeth TAR (2 flynedd) a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru drwy darpariaeth y Brifysgol Agored. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu Gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r ysgol wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

Mae'r rhaglen wedi'i hanelu at raddedigion sydd unai'n gweithio ar hyn o bryd ac eisiau newid gyrfa, neu sydd â phrofiad yn y gorffennol o weithio mewn amgylchedd gyda phlant a phobl ifanc. Gall hyn gynnwys cynorthwywyr addysgu a hyfforddwyr dysgu sy'n dymuno symud ymlaen yn eu gyrfa yn ogystal â swyddogion ieuenctid. Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd yn eu blwyddyn olaf yn y brifysgol hefyd.

Mae hwn yn gyfnod arbennig o gyffrous i ymuno ag Adran Dechnoleg, gan y byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn cael y cyfle i hyfforddi gyda staff profiadol ac arloesol mewn maes dysgu sydd ar flaen y gad mewn perthynas â Chwricwlwm i Gymru ac wrth greu adnoddau ysbrydoledig. Wrth ddod yn aelod o staff yn Ysgol Dyffryn Nantlle, rydych yn ymuno gyda thîm ac yn wir, teulu o bobl arbennig iawn. Y mae i'r ysgol gymuned a naws deuluol nodedig lle mae perthynas agos o ymddiriedaeth, gofal a pharch rhwng pobl ifanc a'r staff. Mae yma elfen gref o gydweithio a chefnogaeth barod ymysg y tîm o staff, lle mae pob aelod o staff yn deall pa mor allweddol yw eu rôl hwy yn llwyddiant ac yn lles ein plant, ein pobl ifanc, a'n gilydd fel oedolion proffesiynol.

Rydym yn edrych am unigolyn sydd yn angerddol am gefnogi gweledigaeth yr ysgol a thrwy hynny, wneud gwahaniaeth mawr yn addysg ac ym mywyd ein pobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd deilydd y swydd hon yn cael cefnogaeth lawn gan yr ysgol wrth iddynt ddatblygu i fod yn addysgwr hyderus, arloesol a chreadigol.

DISGRIFIAD O'R RHAGLEN
Gofynion mynediad ar gyfer llwybr TAR i addysgu a ariennir yn llawn gan y Brifysgol Agored
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ddal y canlynol, o leiaf:
•Safon sy'n cyfateb i TGAU Gradd C neu uwch mewn Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd
•Safon sy'n cyfateb i TGAU Gradd C neu uwch mewn naill ai Saesneg Iaith neu Gymraeg Iaith Gyntaf
•Gradd anrhydedd lawn yn y DU (neu gyfwerth). Rhaid i chi feddu ar radd sydd ag o leiaf 50% o berthnasedd i'r pwnc os ydych am addysgu i ddod yn athro ysgol uwchradd (dysgwyr 12-16 oed). I'r ymgeiswyr hynny sy'n gwneud cais pwnc Cymraeg, nid oes rhaid i'ch gradd fod yn y maes hwn o reidrwydd os gallwch ddangos eich bod yn defnyddio'r iaith yn rhugl, oherwydd efallai y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi yn dibynnu ar ddyfnder eich gwybodaeth.
•Mae angen i ymgeiswyr fod ar gael i ymrwymo i gontract amser llawn (nid yn ystod y tymor yn unig) tan ddiwedd y rhaglen ym mis Gorffennaf 2028 a bydd yn ofynnol iddynt fod wedi'u lleoli yn yr ysgol o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Am unrhyw gwestiynau neu wybodaeth bellach am y rhaglen e-bostiwch Tîm TAR Cymru ar TAR-Cymru@open.ac.uk neu ewch i TAR | Cwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion | Y Brifysgol Agored (open.ac.uk)
•Mae'r llwybr TAR yn rhaglen 2 flynedd.
•Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad DBS manylach.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi