MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Llanrug, Caernarfon,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £19,047 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 18 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Gweinyddol a Busnes (25.5 awr) Ysgol Gynradd Llanrug

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £19,047 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG
YSGOLION CYNRADD

SWYDDOG GWEINYDDOL A BUSNES

YSGOL LLANRUG
(Ysgol Gynradd 3 - 11 oed: 262 o ddisgyblion)

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1, pwyntiau 12 - 17 (sef £17,559 - £19,047) y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster.

Yn eisiau: Cyn gynted â phosib.

Mae'r Llywodraethwyr yn chwilio am berson i gynorthwyo gyda gwaith gweinyddol a busnes yn yr ysgol.

Oriau Gwaith: 25.5 awr yr wythnos
(40 wythnos waith mewn blwyddyn Ysgol sef 38 wythnos tymor Ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal a 5 diwrnod yn ystod gwyliau'r ysgol).

Disgwylir i'r ymgeisydd fod â sgiliau cyfrifiadurol o safon uchel.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Mrs Nia Puw (Rhif Ffôn 01286 674905) e-bost: nia.puw@llanrug.ysgoliongwynedd.cymru
Dylid cyflwyno cais am y swydd ar-lein. Os nad yw hyn yn bosibl, yna gallwch gysylltu gyda Wendy Jones, Swyddog Cefnogi Ysgol. Rhif ffôn 01758 704043
e-bost:wendyjones2@gwynedd.llyw.cymru

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr ysgol.

Rhagwelir cynnal cyfweliadau am y swydd hon wythnos yn cychwyn 23 Mawrth 2026.

DYDDIAD CAU: 12 O'R GLOCH, DYDD MERCHER 18 MAWRTH 2026.

(This is an advertisement for the post of a Administration and Business Officer at Ysgol Llanrug for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential). The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

Manylion Person

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL
Gymhwyster hyd at Lefel 3 neu profiad cyfwerth mewn un o'r meysydd isod:
Gweinyddiaeth /Technoleg Gwybodaeth/Busnes/Cyllidol

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL
Profiad o weithio mewn Ysgol
Profiad o gydweithio'n effeithiol efo gweithwyr ar bob lefel
Profiad o sefydlu systemau gweinyddol Ymwybyddiaeth o faes Llywodraethwyr Ysgolion
Profiad o weithio ar sustemau Sims/ Bromcom
Profiad o ddelio gyda sefyllfaoedd anodd

DYMUNOL
Profiad o Arwain Tîm
Profiad o gynghori ar faterion polisi neu ganllawiau
Profiad o weithdrefnau a rheolau cyllidol

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL
Profiad o ddefnyddio meddalwedd Microsoft Office a'r we.
Sgiliau cyfathrebu ac ysgrifennu cryf yn y Gymraeg a'r Saesneg gyda'n effeithiol gydag ystod o gynulleidfaoedd.
Sgiliau trefnu a blaenoriaethu.
Gwybodaeth am drefniadaeth Cyrff Llywodraethol Ysgolion.
Y gallu i weithredu fel aelod o dîm.
Y gallu i weithio o dan bwysau.
Yn dangos blaengaredd.

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL
Bod yn aelod o dîm a'r gallu i gydweithio'n dda.
Cyfathrebu effeithiol, arddangos blaengaredd (gweld gwaith)

ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad
Gallu cyflwyno pob agwedd o'r swydd ar lafar yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gystal â'i gilydd.
Darllen a Deall
Gallu defnyddio a dehongli'n gywir unrhyw wybodaeth o amrywiol ffynonellau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyflawni holl agweddau'r swydd.
Ysgrifennu
Gallu cyflwyno gwybodaeth yn ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg mewn modd gwbl hyderus gan ddefnyddio'r dull a'r iaith fwyaf priodol ar gyfer y pwnc a'r gynulleidfa Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.

Swydd Ddisgrifiad

1 Pwrpas y Swydd

1.1 Bydd deilydd y swydd yn monitro gwariant yr ysgol a sicrhau bod trefniadau monitro cadarn yn eu lle i gynnal y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau yn unol â rheoliadau ariannol.
1.2 Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol yn uniongyrchol i'r Pennaeth am weinyddiad effeithiol yr ysgol ac yn goruchwylio gwaith y derbynnydd.
1.3 Gweithio'n rhagweithiol mewn partneriaeth â'r Uwch Dim Rheoli i sicrhau gwasanaethau cymorth effeithiol ac effeithlon i gyflawni blaenoriaethau'r ysgol.
1.4 Bydd deilydd y swydd yn Swyddog Diogelu Data yr ysgol ac yn gyfrifol am yr holl drefniadau er mwyn cydymffurfio gyda'r ddeddf GDPR.
1.5 Cefnogi'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethol i sicrhau bod polisïau'r ysgol yn unol ȃ'r gofynion statudol.

2 Prif gyfrifoldebau

Cyllid

2.1 Cyfrifoldeb am fonitro gwariant ac incwm yr ysgol, ar y cyd gyda'r Pennaeth/Uned Gyllid y Cyngor.
2.2 Paratoi adroddiadau ariannol i'r Pennaeth, yr Is-bwyllgor Cyllid a'r Corff Llywodraethol yn ôl y gofyn.
2.3 Rheoli cronfeydd yr ysgol, bancio a chysoni yn fisol, a chwblhau trosglwyddiadau arian ar gyfer y gronfa. Cysylltu gyda'r archwilwyr allanol y Sir a darparu gwybodaeth iddynt. Darparu adroddiadau ar y gronfa i'r Is-bwyllgor Cyllid.
2.4 Archebu holl nwyddau ac offer yr ysgol, codi archebion, a delio gyda thaliadau.
2.5 Rheoli a gweinyddu'r Cynllun gwersi offerynnol Cerdd.
2.6 Monitro gwariant ar athrawon llanw.
2.7 Gweithredu system 'petty cash' yr ysgol, a chasglu a bancio arian yn ôl yr angen/ monitro'r defnydd o'r system taliadau cyllidol electronaidd.
2.8 O dan arweiniad y Pennaeth, delio gyda cheisiadau am grantiau yn achlysurol a monitro'r defnydd yn unol â rheoliadau'r grant.
2.9 O dan arweiniad y Pennaeth, monitro'r defnydd o wahanol grantiau e.e Cyllid Integreiddio Anghenion Dysgu Ychwanegol, Grant Gwella Addysg, Grant Datblygu Disgyblion, Grant Dysgu Proffesiynol.
2.10 Gweinyddu'r drefn amserlenni ( TR86/TR48/TR89) ar gyfer Cymorthyddion ac athrawon llanw gan sicrhau fod popeth yn cael eu cwblhau yn amserol ar gyfer prosesu taliadau.
2.11 Archebu adnoddau ar gyfer y dosbarthiadau / delio gyda chyflenwyr nwyddau.

3 Llywodraethwyr

3.1 Gweithredu fel clerc y Corff Llywodraethol a'r Is-bwyllgorau: galw cyfarfodydd, trefnu'r agenda, paratoi'r ddogfennaeth, cofnodi cyfarfodydd, a gweithredu penderfyniadau.
3.2 Rheoli'r holl ofynion statudol mewn perthynas â'r llywodraethwyr unigol: hyfforddiant mandadol, rhestr buddiannau, egwyddorion ymddygiad, gwiriadau troseddol DBS.
3.3 Paratoi adroddiad blynyddol y Corff Llywodraethol i rieni.
3.4 Disgwylir i'r clerc gydweithio gyda'r Cadeirydd i baratoi arfarniad o waith y corff yn unol â chanllawiau cenedlaethol.

4 Rheoli Pobl

4.1 Goruchwylio gwaith y Dderbynnydd.
4.2 Cynnal Rheoli Perfformiad i'r staff uchod, gan osod amcanion, blynyddol a'u hadolygu.
4.3 Trefnu rhaglen datblygu broffesiynol ar gyfer holl staff ategol yr ysgol a'i fonitro.
4.4 Mewn cydweithrediad â'r Pennaeth, llunio swydd ddisgrifiadau ar gyfer y staff uchod a'u hadolygu yn ôl yr angen.
4.5 Gweinyddu'r drefn benodi, a phrosesu penodiadau newydd holl staff yr ysgol a delio gyda materion cyflog.
4.7 Cydlynu a chadw cofnodion o faterion yn ymwneud â phob aelod o staff gan gynnwys hyfforddiant amddiffyn plant, cymorth cyntaf, gwiriadau troseddol DBS, a chadw cofrestr gyfredol o HMS.
4.8 Gweinyddu'r drefn absenoldebau salwch ar gyfer y Derbynnydd, gofalwr a chymorthyddion yr ysgol.
Gweinyddu'r drefn TR45 absenoldebau ar gyfer pob aelod o staff a chadw manylion am bresenoldeb ac absenoldebau staff. Cwblhau'r ffurflenni priodol ac ardystio cywirdeb ceisiadau am dâl. Sicrhau bod y ffurflenni pwrpasol yn cael eu llenwi a'i derbyn yn amserol.
4.9 Rheoli amserlen a rhaglen waith athrawon a chymorthyddion llanw yn unol â'r galw a gweinyddu'r trefniadau cyflenwi dyddiol. Anwytho athrawon a chymorthyddion llanw.
4.10 Gweinyddu'r drefn o wirio dogfennau pob aelod o staff 'gyrru ar fusnes ysgol'.

5 Gweinyddiaeth

5.1 Rheoli a datblygu sustemau ar gyfer cynnal a chadw ffeiliau staff a disgyblion, a sicrhau fod y wybodaeth ar gyfer PLASC yn gywir, er mwyn cwblhau adroddiad.
5.2 Darparu gwasanaeth cefnogol gweinyddol i'r Pennaeth, a gwaith ysgrifenyddol i'r Tîm Rheoli yn ôl yr angen.
5.3 Yn absenoldeb y Derbynnydd, ymgymryd â gwaith y dderbynfa.
5.3.1 Cyd-lynu a monitro contractau, caffael, tendrau a chytundebau ar gyfer darparu gwasanaethau i'r ysgol, delio a chyflenwyr, sicrhau fod adeiladau'r ysgol yn gweithredu yn unol â gweithdrefnau brys a chadw at ofynion Iechyd a Diogelwch a diogelu data.
5.4 Goruchwylio defnydd cymunedol o'r ysgol, gan wneud trefniadau ar gyfer gosod yr ysgol a threfnu i ymateb i anghenion y defnyddwyr, bilio a derbyn taliadau.
5.5 Paratoi data i'w ddadansoddi ar gais y Pennaeth neu Uwch Dim Rheoli.
5.6 Cofnodi cyfarfodydd staff yr ysgol ar gais y pennaeth.
5.7 Paratoi ystadegau ac adroddiadau perthnasol i'r Corff Llywodraethol, y Cynulliad, yr Awdurdod Addysg, GwE, ac unrhyw gorff arall ar gais y pennaeth.
5.8 Gwirio fod cyfrifiad blynyddol PLASC a'r cyfrifiad presenoldeb wedi ei gwblhau a'i anfon i'r swyddogion priodol.
5.9 Gweinyddu system ffeilio ar gyfer holl ddisgyblion yr ysgol e.e. caniatâd disgyblion yn BROMCOM.
5.10 Yn dilyn ymgynghoriad, ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol a rhesymol eraill ar gais y Pennaeth neu'r Dirprwy

6 Iechyd a Diogelwch
6.1 Mewn ymgynghoriad ȃ'r UDRh a'r Rheolwr Iechyd a Diogelwch, cysylltu gyda swyddogion yr Adran Eiddo a gweithwyr perthnasol i drefnu gwaith yr ysgol.
6.2 Rheoli gwaith contractwyr allanol mewn cydweithrediad gyda swyddog sirol.
6.3 Materion iechyd a diogelwch i'r adeilad yn cynnwys asesiadau risg asbesdos, tan, cynnwys y bocs glas, a chynllun parhau gwasanaeth.
6.4 Gweinyddu ymweliadau ar Evolve

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi