MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: Pay Scale Within: £33,731 - £51,942
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 19 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Saesneg - Ysgol Uwchradd VC Hwlffordd

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Pay Scale Within: £33,731 - £51,942

Mae Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd am benodi athro Saesneg o fis Medi 2026. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â ni mewn ysgol sy'n hyrwyddo rhagoriaeth, cynhwysiant a disgwyliadau uchel.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn bodloni'r canlynol:
  • Yn ymarferydd dosbarth rhagorol ac arloesol sydd â brwdfrydedd dros addysgu Saesneg.
  • Yn meddu ar y weledigaeth, y dychymyg a'r ymrwymiad i ychwanegu at gryfder yr adran, i gyrraedd y safonau uchaf, ac i fod yn esiampl dda i'n myfyrwyr.
  • Yn datblygu strategaethau i ennyn diddordeb dysgwyr er mwyn gwella eu perfformiad ymhellach.
  • Yn dangos ymrwymiad cryf i welliant parhaus a chodi lefelau cyflawniad.
  • Yn meddu ar sgiliau trefnu, dadansoddi a chyfathrebu da.
  • Yn meddu ar frwdfrydedd, gwytnwch, penderfyniad a synnwyr digrifwch.
  • Yn meddu ar y gallu i ysgogi ac ysbrydoli cydweithwyr a dysgwyr.
  • Yn meddu ar ddisgwyliadau uchel o'i hun, ei gydweithwyr a'i ddysgwyr.
  • Yn meddu ar y gallu i ddatblygu cydberthnasau gweithio da â'r holl randdeiliaid.
  • Yn gallu defnyddio data mewn ffordd effeithiol iawn er mwyn cefnogi cynnydd ar draws yr adran.
  • Yn hollol ymrwymedig i weledigaeth ein hysgol.

Os ydych yn teimlo bod gennych yr awydd, y penderfyniad a'r sgiliau i ymuno ân tîm ac yn teimlo y gallwch gyflawni'r heriau a ddaw gyda'r swydd, byddem wrth ein bodd i glywed gennych. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm ffyniannus sy'n gweithio ar y cyd i gyflwyno gwersi o ansawdd uchel i'n disgyblion. Mae'r ysgol newydd yn amgylchedd gwych i weithio ynddo ac yn darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf i ddisgyblion a'r gymuned.

Rydym yn falch iawn o gyflawniadau ein disgyblion yn Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd, ac rydym yn awyddus i rannu gwybodaeth i'ch helpu i gyflwyno cais llwyddiannus. I gael rhagor o wybodaeth am yr ysgol, ewch i'n gwefan neu ein cyfrifon Facebook neu Instagram, neu mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.


Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
  • Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
  • Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
  • Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.


Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol


  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.