MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: £26,403 - £27,694 Pro Rata | Grade 4
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 17 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Cymorth yr Ysgol - Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer
Torfaen Local Authority
Cyflog: £26,403 - £27,694 Pro Rata | Grade 4
Cyfnod Penodol Hyd Nes 31 Mawrth 2027Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Dyma gyfle cyffrous iawn i ymuno â thîm ymroddgar o staff yn Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer.
Mae'r llywodraethwyr yn dymuno penodi Swyddog Cymorth yr Ysgol sy'n hynod o frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant ac sydd â sgiliau trefnu profedig, i ymuno âm gweinyddol yr ysgol fywiog a hapus hon.
Bydd gofyn i chi ddarparu cymorth gweinyddol ar gyfer ein Pennaeth a'n Tîm Uwch-arweinwyr. Fe fyddwch yn gyfrifol am Bresenoldeb Disgyblion ac am gefnogi Swyddog Cymorth yr Ysgol wrth redeg prif swyddfa'r ysgol, sef y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob ymwelydd a phawb sy'n galw. Mae'r gallu i weithio o dan bwysau yn hanfodol.
Fe fydd angen sgiliau cyfathrebu a TG rhagorol arnoch ynghyd â sensitifrwydd i anghenion pawb yng nghymuned ein hysgol. Mae gwybodaeth am systemau Microsoft Office a SIMS yn ddymunol ond nid yn hanfodol oherwydd rhoddir hyfforddiant priodol.
Mae Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd wag hon, cysylltwch â Leah Taylor trwy E-bost Leah.taylor@torfaen.gov.uk neu dros y Ffôn 01495742761
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch âr rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.