MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 20 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
ManylionHysbyseb Swydd
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL DYFFRYN NANTLLE, PENYGROES
(Cyfun 11 - 18; 420 o ddisgyblion)
Yn eisiau: 1 Medi, 2026
DIRPRWY BENNAETH (Parhaol)
CYFLOG: L11 - L15 ar y Raddfa Arweinyddiaeth (£67,531 - £74,384)
Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr profiadol, brwdfrydig a chymwys ar gyfer y swydd allweddol yma. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gwneud cyfraniad allweddol i reolaeth uwch a datblygiadau o fewn yr ysgol ac yn cynnig gweledigaeth glir ar gyfer y dyfodol.
Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mrs Rhian Parry Jones.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Ms. Elen Williams, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6AA
Rhif ffôn - 01286 880345
e-bost: sg@dyffrynnantlle.ysgoliongwynedd.cymru
Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD GWENER, 20 fed O FAWRTH, 2026.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
.
Swydd Ddisgrifiad
Teitl y Swydd: Dirprwy Bennaeth
Gradd Gyflog: Pwyntiau Graddfa Arweinyddiaeth L11 - L15
Yr hyn sy'n dilyn yw rhestr o gyfrifoldebau y gallai fod yn ofynnol i'r Dirprwy Bennaeth eu cyflawni. Gall fod yn destun ail-negydu os bydd newidiadau o fewn yr Uwch Dîm Reoli. Mae'n cynrychioli ymhellach restr o gyfrifoldebau na ellir eu cyflawni ar yr un pryd ac felly mae'n destun blaenoriaethu, dirprwyo neu ofynion amrywiol gwahanol gyfnodau o'r flwyddyn academaidd. Mae hefyd yn ddarostyngedig i delerau'r ddogfen Cyflog ac Amodau Gwasanaeth Athrawon Ysgol sy'n berthnasol i Ddirprwy Brifathrawon.
Rheolaeth
Atebol i'r Pennaeth.
Dyletswyddau Cyffredinol:
Cwricwlwm ac Amserlen
- Cwricwlwm: Sicrhau bod y gofynion statudol yn cael eu dilyn yn gywir gan yr Ysgol gan ymgorffori unrhyw ddatblygiadau newydd.
- Cadw data cwricwlaidd Bromcom yn gyfredol.
- Archwiliadau staffio / strwythur staffio.
- Proses ddewisiadau pynciau i ddisgyblion Blwyddyn 9 ac 11.
- Cymhwysterau - ymchwilio i gymhwysterau addas i'r disgyblion a chadw gwybodaeth am gymwysterau yn gyfredol.
- Cynrychioli'r ysgol mewn cyfarfodydd Partneriaeth 14-19 Gwynedd a Môn.
- Datblygu cydweithio rhwng yr ysgol a sefydliadau eraill i ddiwallu anghenion yr ysgol a'r disgyblion.
- Creu amserlen yr ysgol yn flynyddol yn seiliedig ar anghenion Cwricwlaidd a chadw'r amserlen yn gyfredol.
Arholiadau gan gynnwys Sicrwydd Ansawdd cymhwysterau
- Gweithredu fel Rheolwr Llinell i'r Swyddog Arholiadau yr ysgol
- Rhannu data canlyniadau disgyblion Blwyddyn 11 a 12 ar wefan Alps ar ddechrau mis Medi.
- Gweithredu fel cyswllt rhwng y byrddau arholi, staff yr ysgol, disgyblion a rhieni.
- Cydweithio â'r adran ADY i sicrhau trefniadau arbennig i ddisgyblion.
- Sicrhau bod aelodau staff a'r UDR yn ymwybodol o newidiadau neu ddiweddariadau perthnasol i feysydd llafur, cymwysterau, ayyb.
- Monitro, adolygu ac arfarnu dulliau gweithredu'r holl dîm arholiadau gyda Pennaeth y Ganolfan, gan gynnwys gwerthuso effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd.
- Parhau gyda datblygiad proffesiynol personol a chyfrannu tuag at ddatblygiad proffesiynol staff eraill sy'n ymwneud â'r drefn arholiadau ac asesiadau.
- Paratoi adroddiadau manwl ar gyrhaeddiad disgyblion ar gyfer byrddau arholi ynglŷn â chofrestriadau Sgiliau Cymru.
Ar y cyd gyda'r Swyddog Arholiadau:
- Gwirio fod yr holl gofrestriadau ar gyfer arholiadau ac achrediadau allanol yn gyflawn.
- Cyfrannu at y drefn o apwyntio arolygwyr arholiadau allanol.
- Sicrhau ansawdd a monitro ethos ac awyrgylch yr ystafelloedd arholiadau yn unol â chyfarwyddiadau a rheolau'r byrddau rheoli.
- Bod yn gyfrifol am drefniadau diogelwch digonol yn ymwneud â gwybodaeth a phapurau arholiadau yn unol â gofynion y byrddau arholi.
- Monitro a sicrhau bod rheolau'r byrddau arholi yn cael eu cadw.
- Paratoi taenlen gyda'r canlyniadau ar gyfer yr UDR, a chanlyniadau fesul pwnc i'r Pennaethiaid Adran/athrawon.
- Sicrhau fod staff gweinyddol yn paratoi pecynnau a rhannu tystysgrifau cymhwysterau papur i ddisgyblion.
- Bod yn bresennol ar adegau derbyn a chyhoeddi canlyniadau i sicrhau bod y wybodaeth perthnasol cywir yn cyrraedd y disgyblion a staff ac i ddelio ag ymholiadau gyda'r Swyddog Arholiadau.
- Sicrhau a monitro argaeledd gwybodaeth am arholiadau a materion cysylltiedig i staff a disgyblion.
- Ymdrin ag ymholiadau athrawon, disgyblion a rhieni yn ôl y galw.
- Rheoli'r drefn weinyddol ynglŷn ag arholiadau allanol drwy gyfarwyddo'r staff ategol perthnasol.
- Cydlynnu'r gwaith am geisiadau yn gofyn am ystyriaeth arbennig ar gyfer disgyblion unigol dan amgylchiadau penodol.
- Sicrhau fod prosesau cadarn yn eu lle er mwyn hawlio canlyniadau ar wefannau diogel byrddau arholi gwahanol, gan gynnwys canlyniadau BTEC, Agored Cymru, neu unrhyw gymwhyster bwrdd arholi arall.
Prosesau gosod targedau a pherfformiad
- Sicrhau trefn gadarn o osod a monitro targedau ysgol gyfan.
- Gwirio targedau'r ysgol yn erbyn dangosyddion cenedlaethol a/neu leol.
- Mesur cynnydd yn erbyn y targedau'n gyson a chynllunio camau gweithredu priodol pan fo unrhyw lithriad.
Swydd ddisgrifiadau staff
- Gwirio a diweddaru swydd ddisgrifiadau yn ôl y galw mewn cydweithrediad gyda'r Pennaeth.
Iechyd a Diogelwch
- Sicrhau bod yr ysgol yn cydymffurfio gyda pholisïau perthnasol Gwynedd a Chenedlaethol.
- Ymateb i bryderon yn syth a chydweithio gyda'r cyswllt priodol o'r Cyngor i'w datrys cgaph.
Cynnal a Chadw
- Sicrhau bod yr ysgol yn cydymffurfio gyda pholisïau perthnasol Gwynedd a Chenedlaethol.
- Sicrhau bod adeiladau a safleoedd yr ysgol yn cael eu hatgyweirio.
- Sicrhau bod gwaith chynnal a chadw angenrheidiol yn cael ei gwblhau i safon ddisgwyliedig fel bo'r angen.
Cludiant
- Sicrhau bod yr ysgol yn cydymffurfio gyda pholisïau perthnasol Gwynedd a Chenedlaethol.
- Goruchwylio trefniadau cludiant i ysgolion a cholegau partneriaethol.
Calendr yr ysgol
- Sicrhau bod yr ysgol yn cydymffurfio gyda pholisïau perthnasol Gwynedd a Chenedlaethol.
- Diweddaru calendr rhieni, staff a rheolaethol yn flynyddol a'i rannu mewn da bryd gyda'r gynulleidfa berthnasol.
Prospectws Dewisiadau TGAU a Safon Uwch
- Diweddaru Prospectws Dewisiadau TGAU a Safon Uwch yn flynyddol a'r gynulleidfa berthnasol
- Marchnata Dewisiadau Chweched yr ysgol yn lleol a thu hwnt.
Iechyd a diogelwch
Diogelwch data
Olrhain, asesu ac adrodd
Sicrhau ansawdd
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi