MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: Grade 5 - £26,403 - £27,694 pro rata
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 18 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Goruchwylydd Ystafell Ffitrwydd – Canolfan Hamdden Hwlffordd
Cyngor Sir Benfro
Cyflog: Grade 5 - £26,403 - £27,694 pro rata
Swyddi agored am 13 awr yr wythnos yw'r rhain ar gyfer hyfforddwr ystafell ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Hwlffordd.Gradd 5 - £26,403 am 13 awr yr wythnos am 52.14 wythnos y flwyddyn, sy'n cyfateb i £9,276.73 pro rata.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn datblygu, marchnata, hyrwyddo a goruchwylio gweithrediad y stiwdio ffitrwydd ac yn cynorthwyo rheolwr y safle mewn prosiectau eraill yn ymwneud ag iechyd a ffitrwydd.
Rhan hanfodol o'r rôl yw goruchwylio'r ystafell ffitrwydd wrth ddarparu safonau uchel o ofal i gwsmeriaid, arwain defnyddwyr i ddefnyddio offer ffitrwydd yn ddiogel, a chydymffurfio â'r holl agweddau hyfforddi wrth gadw at yr holl weithdrefnau iechyd a diogelwch.
Mae gofyniad i lunio, addasu ac adolygu rhaglenni ffitrwydd unigol yn seiliedig ar iechyd, galluoedd, nodau a chynnydd cwsmeriaid yn ogystal â chyfarwyddo dosbarthiadau ffitrwydd fel rhan o'r rhaglen dosbarthiadau ffitrwydd i gefnogi cwsmeriaid i gyflawni eu nodau.
Byddwch yn dyfeisio dulliau marchnata, hyrwyddo a mentrau i wneud y mwyaf o ddefnydd ac incwm yr ystafell ffitrwydd i gyrraedd targedau gosodedig a byddwch yn Hyfforddwr Ffitrwydd Cymwysedig i NVQ Lefel 2 neu gyfwerth o leiaf, ac yn barod i weithio tuag at Lefel 3 a thu hwnt.
Mae'r gallu i ddangos ymrwymiad uchel i ofal cwsmeriaid a darparu profiad o ansawdd yn ogystal â meddu ar brofiad diamheuol o weithio fel aelod effeithiol o dîm yn hanfodol.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Mae sgiliau iaith Gymraeg i'w dysgu ar ôl penodi. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.