MANYLION.
  • Lleoliad: Aberystwyth,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: 24,413 *
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 24 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Creche / Gweithiwr Chwarae - Canolfan Deuluoedd Penparcau

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 24,413 *

Ynglŷn â'r rôl
Mae cyfle wedi codi i unigolyn brwdfrydig sy'n chwilio am yrfa yn ein Tîm Rhianta a Chymorth i Deuluoedd fel Helpwr Crèche / Gweithiwr Chwarae (Rhyddhad).

Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â'r Tîm Rhianta a Chymorth i Deuluoedd wrth i ni barhau i ehangu'r Model Gwasanaethau Integredig Drwy Oedran Lles.

Bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau crèche yn amryw o leoliadau o dan cyfarwyddyd yr Arweinydd Crèche.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau bod tegwch mynediad a chyfle i oedolion a phlant yn cael ei hyrwyddo.Byddant hefyd yn sicrhau bod yr holl waith yn cael ei wneud gydag ymrwymiad i hawliau plant a byddant yn dangos dealltwriaeth o werth chwarae ym mywydau plant.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig amrywiaeth o fuddion i weithwyr, megis cyfleoedd hyfforddi.

Mae rhagor o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion i weithwyr ar gael yma . Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond hefyd, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu datblygu eich gyrfa gyda ni.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Cymorth Cynnar - Llesiant Cymunedol a Dysgu
Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth, atal ac ymyrraeth gynnar i ystod o grwpiau ac unigolion ledled y Sir. Ein nod yw adnabod angen a chynnig cefnogaeth cyn i faterion a phryderon gwaethygu a bod angen ymyrraeth fwy ffurfiol. Mae ein swyddogaethau yn cynnwys:
Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy