MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Friars, Bangor,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 19 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Arolygwr Arholiadau Ysgol Friars, Bangor

Cyngor Gwynedd

Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOL FRIARS, BANGOR

(Cyfun 11 - 18: 1263 o ddisgyblion)

Yn eisiau: ar gyfer : Cyn gynted a sydd bosib.

AROLYGWR ARHOLIADAU

Swydd Achlysurol

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.

Oriau gwaith: Achlysurol

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS1 pwynt 2 (£12.65 yr awr + elfen o dal gwyliau).

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol hefo'r Arweinydd Prosiect Gwella, Ms Bethan Roberts, Rhif ffôn: 01248 364905

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Ms Bethan Roberts, Ysgol Friars, Lon y Bryn, Bangor, Gwynedd, LL57 2LN.

Rhif ffôn: 01248 364905

e-bost: pennaeth@friars.ysgoliongwynedd.cymru

Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD IAU, 19eg O FAWRTH, 2026

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

Swydd Ddisgrifiad - Goruchwyliwr Arholiadau

Pwrpas y rôl yw sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael amgylchedd cyfartal, saff a diogel i sefyll eu harholiadau yn unol â chanllawiau'r Cydgyngor Cenedlaethol dros Gymwysterau ar gyfer cynnal arholiadau.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
  • Goruchwylio mynediad yr ymgeiswyr i'r ystafell arholi
  • Cyfarwyddo ymgeiswyr i'w seddi penodedig
  • Gwneud yn siŵr bod yr ymgeiswyr yn ymwybodol eu bod o dan amgylchiadau arholi
  • Agor a dosbarthu papurau arholiad i'r ymgeiswyr
  • Dechrau'r arholiad a darllen unrhyw rybuddion erratum yn uchel
  • Llenwi cofrestr presenoldeb
  • Sicrhau bod ymgeiswyr yn ymwybodol o amser dechrau a gorffen yr arholiad
  • Sicrhau bod y rheoliadau arholi wedi eu gosod gan y Byrddau Arholi a'r Cyd-gyngor Cymwysterau (CGC) yn cael eu gwireddu
  • Bod yn wyliadwrus, ond nid yn ymwthiol drwy gyfnod yr arholi
  • Dosbarthu papur/offer ychwanegol fel bo'r angen
  • Gorffen arholiad
  • Casglu papurau a sgriptiau arholiad ar ddiwedd yr arholiad fel y cyfeirwyd.
  • Goruchwylio'r ymgeiswyr yn gadael yr ystafell arholi mewn modd trefnus
  • Dychwelyd papurau arholiad wedi eu cwblhau, sgriptiau arholiad ac unrhyw nwyddau arholiad i ardal ddiogel ar ddiwedd arholiad
  • To invigilate any practical examinations (i.e. Science, Art) as requested by the EO I Oruchwilio arholiadau ymarferol (ee Gwyddoniaeth, Arlunio) fel a dymunwyd gan y Swyddog Arholiadau.
  • To assist in other activities as may reasonably be requested by the centre from time to time I helpu y ganolfan gyda unrhyw waith arall o amser i amser a ddymunwyd yn rhesymol

Rôl y Goruchwyliwr

Mae gan y Cydgyngor dros Gymwysterau (JCQ) ddogfen cyfarwyddiadau ar gynnal arholiadau. Mae'r ddogfen JCQ yn disgrifio beth yw rôl goruchwyliwr a chaiff hyn ei restru isod: Goruchwyliwr yw'r unigolyn yn yr ystafell arholi sy'n gyfrifol am gynnal yr arholiad. Mae ganddynt "rôl allweddol wrth gynnal cyfanrwydd y broses arholi/asesu allanol".

Dylai goruchwylwyr:
  • Sicrhau bod yr holl ymgeiswyr yn cael cyfle cyfartal i ddangos eu galluoedd
  • Sicrhau diogelwch o flaen llaw, yn ystod ac ar ôl arholiad
  • Atal y posibilrwydd o unrhyw gamymarfer gan ymgeiswyr
  • Atal y posibilrwydd o fethiannau gweinyddol


  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi