MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: Grade 6 | £31,537 - £34,434 PRO RATA
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 15 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cymorth yr Ysgol - Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Henllys

Torfaen Local Authority

Cyflog: Grade 6 | £31,537 - £34,434 PRO RATA

Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Swyddog Cymorth Ysgol, sy'n uchel ei g/chymhelliant a phroffesiynol iawn, i drefnu systemau gweinyddol o fewn yr ysgol a'u goruchwylio.

Mae Henllys, sy'n Ysgol yr Eglwys yng Nghymru, yn ysgol hynod lwyddiannus, wedi ei lleoli yng Nghwmbrân, ac ar hyn o bryd mae ganddi 180 o blant ar y gofrestr. Ein gweledigaeth yw darparu addysg o ansawdd uchel, wedi'i hymwreiddio yn y ffydd a'i gwerthoedd Cristnogol, gyda disgwyliadau uchel i bawb . Ein datganiad cenhadaeth yw, Ysbrydoli, Herio, Cyflawni, Meithrin, ac mae'r fath agwedd 'GALLAF WNEUD' yn treiddio drwy'r ysgol. Mae ein plant yn gwybod ein bod yn eu caru, maent yn teimlo'n hyderus ac yn ddiogel, ac yn ffynnu yn ein hamgylchedd hapus a chynhwysol. Rydym yn chwilio am Swyddog Cymorth ar gyfer yr Ysgol, sef un fydd yn frwd dros gefnogi a meithrin y nodau a'r gwerthoedd hyn.

Bydd angen i'n Swyddog Cymorth hefyd:
  • Gyfrannu at y gwaith o gynllunio, datblygu a monitro gwasanaethau cymorth, gan gynnwys cydlynu a dirprwyo gweithgareddau perthnasol.
  • Cymryd rôl arweiniol wrth fynd ati i gynllunio, datblygu, dylunio, trefnu a monitro systemau, gweithdrefnau a pholisïau cymorth.
  • Cyflawni cyfrifoldebau rheoli llinell, lle bo hynny'n briodol
  • Bod yn gyswllt rhwng rheolwyr/staff addysgu a chynorthwywyr addysgu.
  • Cynnal cyfarfodydd tîm rheolaidd gyda chydweithwyr perthnasol.
  • Ymgymryd â'r gwaith i recriwtio/sefydlu/hyfforddi/mentora ar gyfer staff eraill.

Yn gyfnewid, gallwn gynnig:
  • Cyfle cyffrous i weithio mewn ysgol boblogaidd gyda phlant cyfeillgar a brwdfrydig, rhieni cefnogol, staff ymroddedig a Chorff Llywodraethu hynod effeithiol.
  • Cymuned ysgol glos, groesawgar a chynhwysol iawn.

Os hoffech gael rhagor o fanylion ynglŷn â'r swydd hon, neu os hoffech drefnu ymweliad, cysylltwch âr Pennaeth, Mrs. Philippa Minto ar 01633 877796.

Yn rhan o'r broses, bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn destun cyfweliad a thasg ysgrifenedig.

Rhestr Fer: Dydd Llun 16 Mawrth 2026

Cyfweliadau: Dydd Mawrth 24 Mawrth 2026

Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar bob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Uwch gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. font-size:12pt"> Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon. font-size:12pt"> Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydyn ni'n gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau y mae gweithlu amrywiol yn eu cyflwyno ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli.

Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn Gymraeg neu'n Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal. font-size:12pt">Rydym wedi ein cofrestru fel Cyflogwr sy'n Hyderus o ran Anabledd ac rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl a chynnig datblygiad gyrfa iddynt. Mae ein cynllun Gwarant o Gyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, cyn belled âu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes cyflwr iechyd arnoch, os ydych chi'n niwrowahanol, neu'n defnyddio iaith arwyddion Prydain, ac angen trafod addasiadau rhesymol, cysylltwch âr rheolwr recriwtio. Gallwn ni weithio gyda chi i drefnu addasiadau ond mae'n rhaid i ni gael gwybod beth yw eich gofynion cyn i chi gyflwyno'ch cais, neu cyn eich prawf neu gyfweliad.