MANYLION.
  • Lleoliad: Colwyn Bay,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 12 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro\/Athrawes Dros Dro (dros gyfnod mamolaeth) - Ysgol Swn y Don

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon

YSGOL SŴN Y DON

Penmaenrhos, Bae Colwyn, LL29 9LL

Rhif ffôn: (01492) 577290

Pennaeth: Mrs Suzanne Fox

Yn eisiau erbyn mis Ebrill 2026

ATHRO/ATHRAWES DROS DRO

(Dros gyfnod mamolaeth)

Mae Ysgol Sŵn y Don yn dymuno penodi athro/athrawes angerddol, gofalgar, llawn cymhelliant gyda profiad dysgu Cyfnod Sylfaen a Cyfnod Allweddol 2 i ymuno â'n tîm effeithiol.

Gweledigaeth. Dyhead. Pwrpas.

Yn Sŵn y Don, rydym yn meithrin creadigrwydd ac yn annog pawb i ddilyn eu breuddwydion.

Rydym yn angerddol am roi'r plant yn gyntaf, drwy gwricwlwm cynhwysol, ysbrydoledig ac arloesol, sy'n mynd y tu hwnt i'r dosbarth. Rydym yn darparu amgylchedd dysgu wedi'i adeiladu ar ymddiriedaeth, parch a derbyn. Mae ein plant yn ddiogel a hapus.

Yn Sŵn y Don, rydym wir yn credu bod popeth yn bosibl!

Drwy gefnogaeth a gofal, rydym yn rhoi grym i'n disgyblion i fod yn llwyddiannus, a rhoi'r arfau iddynt ddeall sut i fyfyrio, datblygu a chymryd cyfrifoldeb am eu teithiau dysgu eu hunain.

Cydweithio i sicrhau gwell dyfodol i bawb!

Ehangu eich gorwelion.

Credu yn eich breuddwydion.

Gwahoddir ceisiadau gan athrawon profiadol ac ymroddgar, sy'n deall pwysigrwydd datblygu'r Cwricwlwm i Gymru, drwy'r pedwar diben a gosod lles a meithrin wrth wraidd eu haddysgu a'u dysgu.

Yr hyn rydym ni'n ei gynnig:
  • Ysgol gyfeillgar, groesawgar, sy'n meithrin, a ble mae pawb y cael ei werthfawrogi.
  • Amgylchedd sy'n seiliedig ar Drawma, a'n gwerthoedd craidd yw cynhwysiant, cydraddoldeb a thegwch.
  • Staff ymroddgar, llawn cymhelliant sy'n credu mewn gwaith tîm a meithrin perthnasoedd positif yn yr ysgol a'r gymuned.
  • Cefnogaeth lawn y Pennaeth a'r Llywodraethwyr ar gyfer datblygiad proffesiynol ac arweinyddiaeth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
  • Profiad o addysgu dosbarth CA2, gyda gwahanol oedrannau a galluoedd
  • Yn gallu dangos sgiliau effeithiol mewn trefnu dosbarth a rheoli ymddygiad, dangos presenoldeb cryf yn yr ystafell ddosbarth.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol â dysgwyr, aelodau'r Corff Llywodraethu, staff, rhieni/ gofalwyr a gallu meithrin perthnasoedd effeithiol â gweithwyr proffesiynol eraill.
  • Gallu bodloni gofynion y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arwain.
  • Gallu gweithio'n effeithiol ar eich liwt eich hun yn annibynnol ac fel rhan o dîm.
  • Gallu cynllunio gwersi effeithiol, gan ddatblygu'r pedwar diben a'r sgiliau gorfodol mewn Llythrennedd, Rhifedd a'r Fframwaith Cymhwysedd a Chyfrifoldeb (FfCC). Dangos disgwyliadau a chyflymder uchel.
  • Yn ddibynadwy, gwydn, hyblyg a rhagweithiol.

Rydym yn chwilio am:
  • Ymarfer eithriadol yn y dosbarth a gallu ysbrydoli ac ennyn diddordeb dysgwyr ifanc; bydd yr ymgeisydd yn ysbrydoledig, arloesol, creadigol, gofalgar, llawn brwdfrydedd a bydd yn gwneud addysg ein plant yn bleserus a hwyliog.
  • Gwybodaeth dda am systemau gofal bugeiliol, yn cynnwys grymuso disgyblion.
  • Gallu gweithio'n effeithiol gyda'n gilydd fel aelodau o'm ysgol cryf a chyfrannu'n llawn at fywyd yr ysgol yn cynnwys gweithgareddau allgyrsiol.
  • Athro/athrawes ofalgar sydd â lles disgyblion a'u teuluoedd wrth wraidd popeth a wnânt.
  • Mantais ychwanegol fyddai cael ymgeiswyr sydd â diddordeb a phrofiad o weithio gyda phlant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Rhinweddau a sgiliau dymunol:
  • Gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad o brosesau asesu a chamau cynnydd.
  • Profiad neu ddiddordebau penodol mewn TGCh/FfCD
  • Gallu arwain mentrau ysgol gyfan yn llwyddiannus drwy gydweithio a phrosiectau'n seiliedig ar ymchwil.

Mae gallu addysgu a chyfathrebu'n effeithiol yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd. Oherwydd natur y swydd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun datgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'n ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn dechrau gweithio.

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad âr ysgol, cysylltwch âr Pennaeth ar 01492 577290

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os na chewch glywed o fewn 3 wythnos o'r dyddiad cau, dylai ymgeiswyr gymryd nad ydynt wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad ac felly ni fyddwch yn derbyn gwybodaeth ysgrifenedig. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English