MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Caernarfon,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: £31,022 y flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 18 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £31,022 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Debbie Ann Jones ar 01286 679 489
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 18/03/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
Un sy'n rhoi sylw i fanylion.
Un sy'n gallu blaenoriaethu gwaith, dangos blaengaredd ac yn cwrdd â therfynau amser penodol.
Un sy'n gallu gweithio fel rhan o dîm.
Un sy'n medru cyfathrebu ag ystod o swyddogion mewnol, Aelodau a swyddogion allanol.
Person egnïol a hyblyg ei natur gyda disgwyliadau uchel a'r gallu i weithio ar ei phen/ben ei hun.
Un sy'n gallu ymdopi ag adegau o waith trwm mewn swyddfa brysur.
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
3 TGAU neu gyfatebol yn y Gymraeg neu Saesneg a Mathemateg a/neu cymhwyster proffesiynol neu profiad perthnasol yn y maes.
Dymunol
Sgiliau technoleg gwybodaeth uchel gyda phrofiad o ddefnyddio gwahanol becynnau meddalwedd gan gynnwys Microsoft Office (e.e. Word, Outlook, Excel, PowerPoint)
Cymhwyster proffesiynol mewn materion bwyd neu faeth.
Profiad perthnasolHanfodol
Profiad o ddefnyddio Word, Excel a chronfeydd data.
Cynnal sustemau gweinyddol a monitro mewn swyddfa.
Profiad o allu ymdopi a nifer o dasgau pwysig yr un pryd.
Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar, wrth drin a phobl, ac ar bapur.
Dymunol
Cofnodi mewn cyfarfodydd
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
Gallu cyfathrebu yn effeithiol gyda phobl ac yn gallu parchu'r angen i fod yn gyfrinachol.
Gallu cyflwyno gwaith cywir a thaclus yn rheolaidd
Bod yn drefnus a blaenoriaethu gwaith fel bo'r angen
Y gallu i weithio o dan gyfarwyddyd a chydweithio fel aelod o dîm
Defnydd o Excel a Cronfeydd data
Defnydd o gar a thrwydded yrru gyfredol lawn.
Dymunol
Ymwybyddiaeth o'r mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 a Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cyflawni gofynion gweinyddol y Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau Addysg gan sicrhau bod systemau effeithiol mewn lle i sicrhau gweinyddiaeth o ansawdd.
• Cynorthwyo a chydweithio gyda'r tîm er mwyn sicrhau bod safonnau uchaf posib o ofal cwsmer yn cael eu cyrraedd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Offer gweinyddol.
• Codi, prosesu a thracio anfonebau.
Prif ddyletswyddau
Sicrhau cefnogaeth weinyddol a gweithredol lefel uchel i'r Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau Addysg gan osod systemau effeithiol i sicrhau gweinyddiaeth o ansawdd i'r gofynion canlynol:
• Trefnu cyfarfodydd, digwyddiadau a hyfforddiant i'r gweithlu gan baratoi rhaglenni, casglu a dosbarthu gwybodaeth, llythyru ac atgoffa.
• Mynychu ystod helaeth o gyfarfodydd ar draws y Gwasanaeth a gyda rhanddeiliaid ehangach gan gadw cofnodion manwl a chywir ohonynt ynghyd â thracio cynnydd yn erbyn unrhyw gamau gweithredu a phenderfyniadau.
• Cyfrifoldeb am ddarparu adroddiadau i ystod o gynulleidfaoedd gwahanol yn ôl yr angen.
• Cyfrifoldeb am lunio ymatebion i ohebiaeth ar gais y Rheolwyr, Is-Reolwr, Swyddog Busnes neu Arweinyddion Tîm yn ôl yr angen.
• Cefnogi'r dull o gyfathrebu gyda staff y Gwasanaeth gan ddefnyddio systemau cyfathrebu megis Blackberry ATHoc i anfon negeseuon torfol pan yn briodol.
• Cynorthwyo i farchnata holl waith y Gwasanaeth drwy sicrhau ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd rheolaidd megis:
-Diweddaru rheolaidd i'r safle wê a chyfryngau cymdeithasol.
-Cynhyrchu datganiadau a/ neu newyddlen.
• Darparu cefnogaeth weinyddol a gweithredol lefel uchel ar gyfer holl staff y Gwasanaeth (gall hyn olygu gweithio o safleoedd eraill ar adegau)
• Darparu cefnogaeth weithredol penodol i'r Arweinyddion Tîm gyda materion sydd yn codi yn eu hardaloedd, gan gynnwys ymateb cychwynnol i ymholiadau rhanddeiliaid parthed cwynion ac ymholiadau, gan gynnig arweiniad a chyngor a sicrhau datrysiad.
• Cyfrifoldeb i flaenoriaethu gwaith yn effeithiol er mwyn cwrdd â therfynau amser clir tra'n meddu ar hyblgrywdd i allu ymateb i faterion sydd yn codi ar y pryd.
• Cyfrifoldeb am gyflawni gofynion tasg a gorffen amrywiol i gefnogi holl faes y Gwasanaeth ar gais y Rheolwr.
• Cydweithio gyda'r Swyddog Busnes gan dracio cyllidebau ynghyd â chynhyrchu adroddiadau monitro ariannol fel bod angen.
• Cyfrannu tuag at y gwaith o fonitro polisïau.
• Cyfrifoldeb am fewnbynnu cronfeydd data a sicrhau ansawdd data.
• Cyflawni gofynion monitro'r Gwasanaeth drwy weithio ochr yn ochr gyda'r Swyddog Busnes.
• Cynorthwyo'r Swyddog Busnes i sicrhau fod adroddiadau cyllidol a pherfformiad yn cael eu cyflwyno i'r Rheolwr Gwasanaeth yn rheolaidd.
• Cyfrifoldeb i sicrhau dealltwriaeth chywir a chyson wrth defnyddio systemau data y Gwasanaeth.
• Cydlynu ymatebion i geisiadau 'Rhyddid Gwybodaeth' a 'Diogelu Data'.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
• Yn achlysurol bydd angen gweithio oriau angymdeithasol.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi