MANYLION.
  • Lleoliad: Caernarfon,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £39,152 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 18 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Busnes Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau Addysg

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £39,152 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ( Pecyn Gwybodaeth )

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Debbie Jones ar 01286 679 489

Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O'R GLOCH, 18/03/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
Un sy'n rhoi sylw i fanylion.

Un sy'n gallu blaenoriaethu gwaith, dangos blaengaredd ac yn cwrdd â therfynau amser penodol.

Un sy'n gallu gweithio fel rhan o dîm.

Un sy'n medru cyfathrebu ag ystod o swyddogion mewnol, Aelodau a swyddogion allanol.

Person taclus a threfnus sy'n gallu blaenoriaethu gwaith fel bo'r angen ac yn dangos blaengaredd.

Gallu cyflwyno gwaith cywir a thaclus yn rheolaidd.

Person egnïol a hyblyg ei natur gyda disgwyliadau uchel a'r gallu i weithio ar ei phen/ben ei hun.

Un sy'n gallu ymdopi ag adegau o waith trwm mewn swyddfa brysur.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
Gradd mewn cymhwyster perthnasol.

4 TGAU (gradd A-C yn cynnwys Cymraeg, Mathemateg a Saesneg).

Cymhwyster yn nefnydd cyfrifiaduron a dehongli.
Dymunol
Sgiliau technoleg gwybodaeth uchel iawn gyda phrofiad o ddefnyddio gwahanol becynnau meddalwedd gan gynnwys Microsoft Office (e.e. Word, Outlook, Excel, PowerPoint)
Profiad perthnasolHanfodol
Profiad o brosesu anfonebau, ffurflenni ariannol a monitro gwariant.

Profiad o ddefnyddio systemau ar gyfer rheoli perfformiad.

Profiad o gyfathrebu gydag unigolion a grwpiau ar lefel eang.

Profiad o weithio i amserlenni tynn.

Profiad o weithredu a monitro cynlluniau, grantiau o ffynhonnell ariannu gwahanol.

Profiad o ddadansoddi dangosyddion perfformiad i adroddiadau monitro.
Dymunol
Profiad o gyflwyno gwybodaeth i gyfarfodydd.

Profiad o gofnodi mewn cyfarfodydd.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
Sgiliau cyfathrebu da a chadarn gyda'r gallu i gyfathrebu yn effeithiol gyda phobl a pharchu'r angen i fod yn gyfrinachol.

Sgiliau cyfrifiadur da - defnydd o raglen Windows (Word, Excel, Outlook)

Sgiliau gofal cwsmer ardderchog.

Sgiliau trefnu a blaenoriaethu.

Sgiliau cyflwyno a hyfforddi.

Defnydd o gar a thrwydded yrru gyfredol lawn.
Dymunol
Defnydd o Power BI

Dealltwriaeth o'r sector arlwyo a glanhau

Ymwybyddiaeth o'r mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 a Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013.
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• Gweithredu fel Swyddog Busnes ar ran y Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau Addysg.

• Rheoli a monitro contractau ysgolion sydd ynglwm a chytundebau lefel gwasanaeth arlwyo a glanhau.

• Cyfrifoldeb am reoli dydd i ddydd cyllideb y Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau Addysg.

• Darparu gwerth am arian trwy brynu, blaenoriaethu, rheoli a monitro defnydd effeithiol o adnoddau gan gydnabod bod gwybodaeth, gallu a sgiliau yn adnoddau hefyd.

• Darparu cefnogaeth weithredol i'r Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau er mwyn eu cynorthwyo i ymarfer eu rôl dyddiol, gan arwain, rheoli a pherchnogi dyletswyddau.

• Deall a gweithio'n effeithiol o fewn fframwaith gwleidyddol y Cyngor a bod yn ymwybodol o'r materion sy'n cael effaith ar ddarparu gwasanaeth ar wahanol lefelau. Meithrin cysylltiadau gydag eraill i elwa o'r arferion gorau er mwyn gwella darpariaeth i ddefnyddwyr y gwasanaeth.

• Rhannu a gwrando ar wybodaeth, barn a syniadau heb ragdybiaeth trwy ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Rheoli, monitro ac adrodd ar gyllidebau.

• Cyfrifoldeb am offer cegin a glanhau.
Prif ddyletswyddau
Cefnogaeth Busnes

• Gweithredu fel prif bwynt cyswllt y Gwasanaeth ar nifer o faterion busnes gan gymryd cyfrifoldeb dros gyfleu anghenion y Rheolwr am gefnogaeth a chydweithio gyda Adrannau eraill ar faterion megis rheoli gwybodaeth, caffael a iechyd a diogelwch.

• Edrych yn barhaus am gyfleoedd i wella'r Gwasanaeth gan adnabod materion sy'n rhwystro'r Gwasanaeth rhag cyflawni yn effeithiol ac effeithlon a gweithredu er mwyn eu datrys.

• Arwain ar weithredu Cytundebau Lefel Gwasanaeth gan feithrin perthynas gweithio cadarnhaol gyda phenaethiaid ysgolion, er mwyn sicrhau eu bodlonrwydd gyda phob agwedd o'r gwasanaethau a ddarperir iddynt.

• Cyd weithio gyda Swyddog Technegol Cytundebau Arlwyaeth a Glanhau Ysgolion er mwyn sicrhau bod safon ein gwasanaethau yn cyd-fynd yn llwyr â'r safonau sydd wedi eu gosod.

• Arwain a chydlynu pecynnau gwaith cymhleth, gan ddarparu cefnogaeth i weddill y tîm yn ôl yr angen.

• Llunio cofnodion o gyfarfodydd a cyflwyno adroddiadau yn ôl yr angen.

• Cyfrannu at ystod eang o ddatblygiadau strategol a phrosiectau gan arwain a gweithredu.

• Cyfrannu at y gweithdrefnau hunan-arfarnu adrannol gan hybu a meithrin diwylliant o adolygu ansawdd gwasanaethau a pherfformiad yn rheolaidd.

• Sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau a'i gyflwyno ar amser (gan gynnwys mewn adegau prysur) trwy flaenoriaethu gwaith yn effeithiol.

• Cyfathrebu clir ac effeithiol gan addasu'r modd fel bo'n briodol i'r sefyllfa.

• Cefnogi'r tîm gyda materion Adnoddau Dynol sydd yn codi yn ôl yr angen.

• Diweddaru canllawiau i staff yn y maes arlwyo a glanhau er mwyn sicrhau bod staff yn gweithio mewn amgylchedd saff a diogel, ac yn darpau'n ddiogel a phriodol ar gyfer eu cwsmeriaid.

• Cydlynu a diweddaru asesiadau risg y Gwasanaeth a chefnogi'r Gwasanaeth i gyflwyno a gwireddu'r mesurau lliniaru.

• Monitro strategaeth hyfforddiant y Gwasanaeth gan gynnwys gweinyddiaeth a threfniadau.

• Gweithredu fel ffynhonnell wybodaeth/pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau data, gan gynnwys arwain a chydlynu ceisiadau am wybodaeth gan gynnwys ceisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

• Cefnogaeth i'r Rheolwr i ymateb ac ymchwilio i gwynion yn unol â'r drefn gwynion gorfforaethol.

• Gweithredu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd ar ran a gyda awdurdod y Rheolwr Gwasanaeth lle bo'r angen yn codi.

Cyllid

• Rheoli cyllideb a chontractau dydd i ddydd er mwyn sicrhau bodlonrwydd cwsmer gyda phob agwedd o'r gwasanaeth gan gynnwys contract achlysurol ychwanegol yn ôl y galw.

• Cydlynu a sicrhau rheolaeth gyllidol effeithiol o'r gwasanaeth.

• Monitro adnoddau, dyledion a chyllid y Gwasanaeth.

• Cydlynu, monitro ac adrodd ar unrhyw grantiau sydd yn cael eu derbyn gan y Gwasanaeth.

• Llunio ceisiadau grant a hawliau incwm.

• Adrodd ar sefyllfa gyllidol i'r Rheolwr Gwasanaeth yn rheolaidd.

Ymchwil, gwybodaeth a data

• Arwain, cydlynu a chasglu holl ddata hanfodol gan sicrhau fod y Gwasanaeth yn gallu cael mynediad at ddata cyfoes a pherthnasol er mwyn gallu rheoli perfformiad yn effeithlon.

• Gwneud gwaith ymchwil ac adnabod tueddiadau allweddol mewn amrywiol feysydd gan ddarparu cefnogaeth a diweddariadau rheolaidd.

• Cefnogi gyda threfniadau herio perfformiad gan gasglu data yn gyson.

• Gweithredu trefniadau amrywiol i gasglu barn rhanddeiliaid yn cynnwys barn penaethiaid, plant a phobl ifanc ar y gwasanaeth gan ystyried, addasu ac ymateb i'r sylwadau a dderbynnir yn ôl yr angen.

• Hyrwyddo cinio am ddim gan annog rhagor o deuluoedd i fanteisio ar y cynnig.

• Arwain ar faterion cyfathrebu, marchnata ac ymgynghori cyhoeddus gan sicrhau ein bod yn codi ymwybyddiaeth am gynnydd yn y meysydd gwaith unigol.

• Dealltwriaeth lefel uchel o systemau TGCh er mwyn sefydlu a gweithredu systemau addas ar gyfer Gwasanaeth.

• Dealltiwriaeth o systemau TGCh ysgolion yn y maes e.e. School Comms, Parent Pay, Bromcom

• Cynorthwyo a chyfrannu at lunio achosion busnes mewn cydweithrediad gyda'r Rheolwr.

Cyffredinol

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiadgan ymgymryd â hyfforddiant proffesiynol pellach a fydd yn angenrheidiol i weithrediad effeithiol ac effeithlon y Gwasanaeth yn unol â chynllun datblygu proffesiynol.

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau arbennig
• Mae'r swydd hon ar delerau parhaol

• Oriau gwaith y swydd hon yw 37 awr yr wythnos.

•r Cyngor yn gweithredu trefniadau gweithio'n hybrid, gyda'r disgwyliad i weithio o'r swyddfa o leiaf deuddydd yr wythnos.

• Lleolir y swydd ym Mhencadlys, Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon.

•r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn angenrheidiol.

• Yn achlysurol, cynhelir rhai cyfarfodydd ar ôl oriau gwaith arferol.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi