MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llandrindod Wells,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £28,142 i £29,540 y flwyddyn ar gyfartaledd £14.58 i £15.31 yr awr
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 12 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £28,142 i £29,540 y flwyddyn ar gyfartaledd £14.58 i £15.31 yr awr
Arweinydd Lleoliad Cyn Ysgol (Ysgol Trefonnen)Swydd-ddisgrifiad
Mae Ysgol Trefonnen yn ysgol ddwy ffrwd ar gyfer plant 4-11 oed, a reolir yn wirfoddol
gyda ffocws ar y gymuned; mae rhai o'n plant yn dysgu'n gyfan gwbl trwy gyfrwng y
Gymraeg a rhai trwy'r Saesneg. Fodd bynnag, mae ein holl ddisgyblion yn rhannu'r
profiad cyffredin o fyw a dysgu yng Nghymru. O fewn adeilad yr ysgol, mae gennym saith
ystafell ddosbarth, dau grŵp Blynyddoedd Cynnar cyn-ysgol (cyfrwng Cymraeg a
Saesneg), dau leoliad Dechrau'n Deg a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Clwb Gwyliau
Haf Bwyd a Hwyl buddiol ac Oergell Gymunedol hynod lwyddiannus.
ARWEINYDD BLYNYDDOEDD CYNNAR Saesneg (parhaol)
12.5 awr yr wythnos
Ar hyn o bryd mae gennym gyfle i Arweinydd Blynyddoedd Cynnar ymuno â'n tîm
dibynadwy, gweithgar ac effeithlon.
Rydym yn chwilio am Arweinydd sydd:
• wedi cyflawni cymhwyster lefel 3 sy'n cael ei gydnabod ar restr gyfredol Cyngor
Gofal Cymru o Gymwysterau a Dderbynnir ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar, neu
sy'n fodlon gweithio tuag at y cymhwyster hwn.
• gyda dealltwriaeth gadarn o egwyddorion ac arferion y Blynyddoedd Cynnar
• ac a fydd yn:
➢ gyfrifol am redeg y lleoliad o ddydd i ddydd yn cynnwys goruchwylio a
chefnogi staff
➢ sicrhau cynllunio, cyflwyno ac adolygu profiadau a gweithgareddau
seiliedig ar chwarae o ansawdd uchel
➢ gyfrifol am bolisïau, hunanwerthuso, asesiadau plant a chadw cofnodion y
lleoliad
➢ cynnal amgylchedd dysgu croesawgar, diogel a threfnus
➢ fodel rôl iaith da
➢ cefnogi plant yn gyson wrth gydnabod ac ymateb i'w hanghenion unigol.
Y patrwm gwaith ar gyfer y rolau hyn yw:
12.5 awr - Llun i Iau, 1 - 3.30 ar hyn o bryd, ond mae'n debygol o newid i oriau bore
ynghyd ag 1.5 awr o amser gweinyddol.
Dyddiad cau: 12.03.26
Rhestr fer: 13.03.26
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'r ysgol ar 01597 822190 neu
office@trefonnen.powys.sch.uk