MANYLION.
  • Lleoliad: Welshpool,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 17 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Safle Cyn -Ysgol (Dechrau'n Deg) (Ysgol Gynradd y Trallwng)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr

Cynorthwyydd Safle Cyn -Ysgol (Dechrau'n Deg) (Ysgol Gynradd y Trallwng)
Swydd-ddisgrifiad
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng
Cynorthwyydd
Cyn-ysgol Dechrau'n Deg Gradd 4 - 18.5 awr
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng yn
ceisio penodi Cynorthwyydd Cyn-Ysgol Dechrau'n Deg cefnogol a gofalgar
sydd â phrofiad blaenorol o weithio gyda phlant ifanc.
Cynigir y swydd uchod fel contract tymor penodol o flwyddyn yn y lleoliad
cyn-ysgol presennol, Tinytots. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio
dan gyfarwyddyd Arweinydd y Tinytots a'r Unigolyn Cyfrifol i ddarparu
profiadau chwarae o ansawdd uchel i blant 2 oed. Mae rhywfaint o
wybodaeth o'r Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon. Mae croeso i
ymgeiswyr drafod y swydd gyda'r Pennaeth Mrs. Lorna Tuffin.
E-bost: head@welshpool.powys.sch.uk
Mae ein hysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles pawb sydd yn ein
gofal. Mae'r swydd hon yn amodol ar eirda boddhaol, DBS manwl a phob
cliriad perthnasol arall.
Am ffurflenni cais a manylion swydd, ffoniwch 01597 826409 (24 awr); neu e
bostiwch recruitment@powys.gov.uk; neu ymgeisiwch ar-lein ar
www.powys.gov.uk a dilynwch y ddolen 'Swyddi - chwilio a gwneud cais'.
Dylid cyflwyno ffurflenni cais wedi'u cwblhau ar gyfer y swydd wag hon i
Gyngor Sir Powys (gweler y swydd wag ar Gyngor Sir Powys am fanylion).
Dyddiad cau: 17.03.26
Llunio rhestr fer: 18.03.26
Cynhelir cyfweliadau: 25.03.26