MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: £33,699 pro rata £20,219 for 22.12 hours
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 10 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £33,699 pro rata £20,219 for 22.12 hours
Proffil swyddMae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd
Manylion y swydd
Cyfeirnod swydd REQ001759 Dyddiad postio 24/02/2026 Dyddiad cau ceisiadau 10/03/2026 Cyflog £33,699 pro rata £20,219 for 22.12 hours Oriau gwaith 22.12 Ar sail Rhan amser Categori/math o swydd Addysg - Heb fod yn Addysgu Atodiadau Ffeil CYP VQ Assessor.pdf Aseswr Cymwysterau Galwedigaethol Plant a Phobl Ifainc.pdf
Aseswr Cymwysterau Galwedigaethol Plant a Phobl Ifainc
Disgrifiad Swydd
Aseswr Cymwysterau Galwedigaethol Plant a Phobl Ifainc - 22.12 Awr (3 diwrnod yr wythnos)
Swydd wedi'i hariannu dros dro tan 31 Mawrth 2027
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn gweithgar a chydnerth i ymuno â'r garfan o Swyddogion Asesu Cymwysterau Galwedigaethol. Mae'r garfan yn rhan o Wasanaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cwm Taf yn Nhŷ Elái, Trewiliam ac yn gyfrifol am gydlynu rhaglen ddysgu ac asesu er mwyn i grŵp penodol o ddisgyblion gyflawni cymwysterau cydnabyddedig. Bydd hyn yn cyfrannu at fodloni gofynion cofrestru ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru neu dargedau Hyfforddiant Cenedlaethol, ac yn cynorthwyo datblygiad personol parhaus.
Byddwch chi'n gyfrifol am reoli eich llwyth gwaith er mwyn sicrhau gwasanaeth cadarn o safon i ddysgwyr sy'n bwriadu cwblhau eu cymwysterau galwedigaethol yn y maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Byddwch chi hefyd yn cysylltu â goruchwylwyr a rheolwyr i greu dull asesu trionglog.
Byddwch chi'n ymuno â charfan brofiadol a gweithgar ac mae sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm da yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.
Bydd y dyletswyddau'n cynnwys llunio cynlluniau gwersi ar gyfer sesiynau hyfforddi ac addysgu gyda disgyblion yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, cadw cofnodion, cyflawni asesiadau (gan gynnwys arsylwadau arferion ar sail meini prawf penodol), mynychu cyfarfodydd rheolaidd, a chadw eich Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn gyfredol. Efallai y bydd gofyn i chi deithio i bob ardal o Gwm Taf.
Er mwyn llwyddo yn y swydd yma, rhaid i chi fod yn unigolyn angerddol ac amyneddgar, a rhaid i chi ymrwymo i'r bobl rydych chi'n rhoi cymorth iddyn nhw ac i safonau proffesiynol swyddog asesu.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gymhwyster galwedigaethol sy'n berthnasol i wasanaethau Plant a Phobl Ifainc. Mae hyn wedi'i restru'n un o'r meini prawf hanfodol yn y Disgrifiad Swydd.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd yma mae croeso i chi gysylltu â Paul Aubrey (07824 541761) neu Dawn Moulden (07747 485753).
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal âr cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy'n cwrdd âr meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.