MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: £26,980 - £31,245
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 19 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Hyfforddwr Arddangoswr - Peirianneg Gyffredinol (Electroneg a Chynnal a Chadw) CC/3046
Coleg Cambria
Cyflog: £26,980 - £31,245
Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr UnigolynColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Hyfforddwr Arddangoswr - Peirianneg Gyffredinol (Electroneg a Chynnal a Chadw)
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract: Llawn Amser, Parhaol
Cyflog: £26,980 - £31,245
Mae Coleg Cambria yn chwilio am Hyfforddwr Arddangoswr angerddol a medrus mewn Peirianneg Uwch i ymuno â'n tîm ar safle Glannau Dyfrdwy. Yn y swydd hon, byddwch chi'n gyfrifol am gyflwyno cyfarwyddiadau ymarferol wedi'u hamserlennu ac arddangosiadau i grwpiau myfyrwyr, gan sicrhau eu bod yn datblygu sgiliau a gwybodaeth hanfodol mewn amrywiaeth o bynciau Peirianneg (h.y. Electroneg, Cynnal a Chadw, Ffitio Mainc, ac ati...). Byddwch chi'n gweithio'n agos gyda chydlynwyr cwrs a darlithwyr i greu amserlen strwythuredig o weithgareddau a chynorthwyo myfyrwyr i gyflawni eu nodau dysgu. Fel rhan o'ch cyfrifoldebau allweddol byddwch chi'n monitro cynnydd myfyrwyr, asesu eu cymhwysedd mewn tasgau ymarferol a chadw cofnodion cywir.
Fel rhan o'n hymrwymiad i lwyddiant myfyrwyr, byddwch chi'n cynorthwyo gydag adolygiadau myfyrwyr, yn helpu i gynhyrchu canlyniadau cwrs, ac yn cyfrannu at greu amgylchedd dysgu gofalgar a chefnogol. Mae cynnal proffesiynoldeb, sicrhau disgyblaeth myfyrwyr, a hyrwyddo presenoldeb a phrydlondeb yn agweddau hanfodol ar y swydd. Yn ogystal, byddwch chi'n cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau datblygu staff ac yn chwilio'n barhaus am gyfleoedd ar gyfer twf personol a phroffesiynol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynnal polisïau'r Coleg ar Gyfle Cyfartal, Iechyd a Diogelwch, ac Ansawdd, gan gefnogi cenhadaeth gyffredinol y Coleg. Byddwch chi'n aelod rhagweithiol o'r tîm, yn barod i ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol y mae eich Rheolwr Atebol yn gofyn i chi ei eu gwneud er mwyn helpu i'r adran weithredu'n effeithlon.
Gofynion Hanfodol
- Mae'n rhaid bod gennych chi gymhwyster Lefel 3 o leiaf mewn pwnc proffesiynol perthnasol neu gymhwyster cyfwerth
- Dangos eich bod yn deall y datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun a sut y byddwch chi'n sicrhau bod gennych chi'r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hyn
- Profiad diwydiannol diweddar yn y maes arbenigol perthnasol
Dymunol ydy sgiliau'r Gymraeg ar gyfer y swydd hon. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n gallu ein helpu ni i ehangu ein darpariaeth a'n gwasanaethau dwyieithog.
Nod Coleg Cambria ydy hyrwyddo ac ymgorffori'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhagweithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd a chefnogi ein cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys gallu dilyn cynlluniau hyfforddiant Cymraeg yn ogystal â thaliadau anogaeth ar gyfer darpariaeth a gwasanaethau dwyieithog.
Rydym yn annog ceisiadau yn y Gymraeg yn fawr. Ni fydd ceisiadau a gyflwynwyd yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Rydyn ni'n adeiladu coleg sy'n adlewyrchu'r gymuned fywiog ac amrywiol rydyn ni'n ei gwasanaethu. Rydyn ni'n croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae'r rôl hon wedi'i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi'i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.
Mae'n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae'n drosedd gwneud cais os ydych wedi'ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw'n anaddas i weithio gyda phlant.
Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig