MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Colwyn Bay,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: £45,586- £55,974 y flwyddyn (Soulbury A 2-7 yn ogystal â 3 SPA
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 19 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £45,586- £55,974 y flwyddyn (Soulbury A 2-7 yn ogystal â 3 SPA
Lleoliad gwaith: Coed Pella - ac mewn ysgolion ledled ConwyRydym yn Wasanaeth Seicoleg Addysg bach, cefnogol sydd wedi'i hen sefydlu, mewn lleoliad hardd yng ngogledd Cymru. Rydym yn dîm prysur sy'n mynd trwy gyfnod o drawsnewid wrth i ni gyflwyno'r newidiadau i ADY yng Nghymru, ac rydym am adeiladu a chryfhau ein Gwasanaeth Craidd.
Mae Gwasanaethau ADY yng Nghonwy, gan gynnwys y Gwasanaeth Seicoleg Addysg, yn parhau i newid a datblygu, ac rydym yn awyddus i gryfhau'r tîm gyda Seicolegwyr brwdfrydig, angerddol ac arloesol i gefnogi datblygiadau a gweledigaeth yr Awdurdod.
Rydym wedi ymrwymo i athroniaeth ac arfer gynhwysol ar draws amrywiaeth o leoliadau prif ffrwd ac arbenigol. Rydym yn gweithio'n agos gyda nifer o asiantaethau a gwasanaethau ac mae gan y tîm safle strategol wrth weithio gyda gwasanaethau a darpariaeth ADY a'u datblygu yng Nghonwy.
Rydym yn angerddol am ddatblygiad y plentyn a chymhwysiad seicoleg i hyrwyddo'r canlyniadau gorau i blant a phobl ifanc. Rydym yn awyddus i ddatblygu ein Gwasanaeth Seicoleg yn barhaus i gynnig cefnogaeth o'r ansawdd uchaf i ddysgwyr yng Nghonwy, eu teuluoedd a'r rhai sy'n eu cefnogi. Byddwn yn croesawu ceisiadau gan seicolegwyr sydd â diddordeb mewn gwaith ymchwil a datblygu, a gwneud newidiadau arloesol a chyffrous i arferion.
Rydym yn chwilio am seicolegwyr medrus, gwybodus a brwdfrydig a seicolegwyr dan hyfforddiant sy'n awyddus i fod yn rhan o ddatblygiad a dyfodol ein tîm a'r gwasanaeth ehangach. Os ydych chi'n Seicolegydd Addysg dan hyfforddiant neu'n Seicolegydd Addysg Cofrestredig profiadol gyda HCPC ac yn chwilio am gyfle newydd, hoffem glywed gennych.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â:
Catherine Webster, Prif Seicolegydd Addysg (01492 575082)
Nerys Hughes, Uwch Seicolegydd Addysg (01492 575597)
Dr Kate Swindon, Uwch Seicolegydd Addysg (01492 575173)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch âr Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.