MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Aberaeron,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: 33,731 - 51,942 *
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 05 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 33,731 - 51,942 *
Ynglŷn â'r rôlMae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Llanarth yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig, ymroddgar, gofalgar ac ysbrydoledig i swydd athro/athrawes i ddysgu yn yr ysgol dros gyfnod secondiad.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth athrawon blaengar a brwdfrydig sydd â dealltwriaeth a phrofiad addas o addysgu disgyblion oed cymysg. Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n dangos ymrwymiad cryf i ddarparu addysg o'r safon uchaf, gan roi anghenion, lles a datblygiad pob plentyn wrth galon y gwaith. Mae'r Ysgol yn hyblyg ac yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan athrawon sy'n dysgu pob oed ar draws yr Ysgol.
Fel ymarferydd proffesiynol, bydd gennych wybodaeth a dealltwriaeth gref o egwyddorion Cwricwlwm i Gymru, a'r gallu i arwain ar feysydd penodol o'r cwricwlwm. Mae'r llywodraethwyr yn chwilio am unigolyn sydd â phrofiad helaeth o TGCH a'i integreiddio'n effeithiol i'r addysgu a'r dysgu a phrofiad o hyrwyddo a chefnogi lles disgyblion drwy'r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles. Bydd disgwyl iddo/iddi gynllunio a darparu profiadau dysgu cyfoethog, perthnasol a chynhwysol sy'n hyrwyddo cynnydd parhaus ac yn cefnogi datblygiad y pedwar diben. Byddai'r gallu a'r brwdfrydedd i gyfrannu at weithgareddau allgyrsiol yn fanteisiol.
Yn Ysgol Llanarth cewch gyfle i weithio gyda phlant ymroddgar a charedig, cymuned gefnogol a thîm o staff cydwybodol sydd yn rhoi blaenoriaeth glir ar les disgyblion a chynnal safonau uchel. Mae'r llywodraethwyr a'r Ysgol yn darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol gwerthfawr i'r staff, ac yn awyddus parhau i ddatblygu arweinwyr y dyfodol.
Ymunwch â'n tîm addysgol uchelgeisiol a charedig, lle mae pob athro yn cael y gefnogaeth i dyfu'n broffesiynol ac i greu effaith go iawn ar fywydau myfyrwyr. Rydym yn cynnig amgylchedd ysbrydoledig, adnoddau modern, a phrosesau hyblyg sy'n cefnogi arloesedd yn y dosbarth. Os ydych chi'n angerddol dros addysg a lles myfyrwyr, yn barod i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant ac eisiau gweithio mewn ysgol sy'n gwerthfawrogi cydweithredu a chynnydd personol, byddwch yn teimlo'n gartrefol gyda ni.
Mae hwn yn hysbyseb ar gyfer swydd Athro/Athrawes yn Ysgol Gynradd Llanarth, lle mae rhuglder llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Os hoffech drefnu ymweliad â'r ysgol neu sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth Manon Lewis-Wright ar lewism245@hwbcymru.net neu 01545580343.
Dyddiad Cyfweliad - Dydd Iau 12fed o Fawrth 2026
Fel rhan o'r cyfweliad byddwn yn gofyn i'r ymgeiswyr i gwblhau tasg ysgrifenedig ac i baratoi gwers fer o 30 munud ar ffocws llythrennedd (Thema:- Y goedwig law).
Dyddiad dechrau: 13eg o Ebrill neu cyn gynted â phosibl.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy