MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £26,403 - 27,694 PRO RATA
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 01 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Gwasanaethau Myfyrwyr - Ysgol Gymraeg Gwynllyw

Torfaen Local Authority

Cyflog: £26,403 - 27,694 PRO RATA

Contract: 1 flwyddyn i gychwyn

Oriau: 27.5 - 30 awr (I'w drafod gyda'r ymgeisydd llwyddiannus) (Amser tymor yn unig - 39 wythnos)

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir y Fanyleb Person atodol , er mwyn sicrhau cyfweliad : Sut i wneud cais Canllaw ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Dyma gyfle arbennig i ymuno ag ysgol sydd ar ddechrau cyfnod cyffrous yn ei hanes. Ym Medi 2022, agorwyd Ysgol Gymraeg Gwynllyw fel ysgol bob oed, wrth i'n hadran gynradd groesawu ei disgyblion cyntaf.

Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.

Agorodd Ysgol Gyfun Gwynllyw fel ysgol gyfun Gymraeg gyntaf hen sir Gwent yn 1988 ac ers y cyfnod hynny, braf yw gweld addysg Gymraeg yn ffynnu yn yr ardal hon. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref hanesyddol Pont-y-pŵl, ac yn gyfleus iawn i'r trefi mawrion, Caerdydd (tua hanner awr), Casnewydd (tua chwarter awr), yn ganolog iawn i draffyrdd yr M4 a'r M5 a phriffordd Pennau'r Cymoedd sy'n arwain at Ferthyr, Y Fenni a Henffordd. Mae'r ysgol hefyd yn gweithio'n agos gydag ysgolion uwchradd Cymraeg eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd a chynigir amryw o gyfleoedd datblygiad proffesiynol fel rhan o hyn.

Rydym yn blaenoriaethu datblygiad proffesiynol ein staff fel prif ffocws. Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn cydweithio'n dda i ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr. Fel ysgol, mae hybu lefelau uchel o les staff yn flaenoriaeth bwysig i ni. Eleni, rydym yn peilota cynllun 'amser aur' i staff yr ysgol, er mwyn cynnig cyfnod i staff weithio oddi ar safle'r ysgol unwaith pob tair wythnos.

Mae prif gyfrifoldebau'r swydd yn cynnwys -
  • Bod yn brif bwynt cyswllt i bob myfyriwr sy'n dod i swyddfa'r ysgol
  • Cynorthwyo disgyblion gydag ymholiadau
  • Ymgymryd â rôl PA i aelodau'r UDA
  • Ateb galwadau, ymholiadau gan rieni a'r cyhoedd
  • Didoli a dosbarthu post mewnol
  • Trefnu a phostio llythyrau allanol at rieni
  • Diweddaru calendr yr ysgol, safleoedd gwe a chyfryngau cymdeithasol yn ôl yr angen
  • Rheoli systemau rheoli gwybodaeth a chyfrifiadurol (SIMS)
  • Ymgymryd â theipio, prosesu geiriau a thasgau TG eraill
  • Argraffu, printio, sganio & ffeilio dogfennau
  • Darparu cymorth cyntaf sylfaenol i staff a disgyblion
Os oes gennych chi'r rhinweddau i wneud cyfraniad blaengar i'r ysgol edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais. Nid oes disgwyl bod gennych brofiad o'r swydd hon, a bydd hyfforddiant ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus.

Mae'r swyddhon wedi ' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. B ydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd fydd cynnwys gwiriad Manwl gyda' Gwasanaeth Datgelua Gwahardd .
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Rydyn ni wedi cofrestru fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd ag anableddau cael eu gwahodd gyfweliad, ar yr amod bod bodloni'r gofynion hanfodol gyfer rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi drefnu ydym gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod gyfweliad.