MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: £28,142 - £31,022 Pro Rata | Grade 5
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 05 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £28,142 - £31,022 Pro Rata | Grade 5
Diolch am ddangos diddordeb yn y swydd Swyddog Cymorth Ymddygiad yn Ysgol Abersychan. Mae hon yn swydd bwysig yn ein hysgol, a'r prif gyfrifoldeb fydd cydlynu'r ddarpariaeth, cynnal prosesau gweinyddol a goruchwylio a chefnogi myfyrwyr sydd mewn Gwaharddiadau Mewnol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn frwdfrydig, yn drefnus iawn ac yn teimlo'n bositif wrth feddwl am weithio gyda myfyrwyr mewn cyd-destun heriol.Mae Ysgol Abersychan yn ysgol uwchradd 11-16 oed sy'n diwallu anghenion plant o bob gallu. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn gyflawni eu potensial. Rydyn ni'n ysgol sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl bobl ifanc yn hapus, yn llwyddiannus ac yn barod ar gyfer eu bywydau y tu hwnt i'r ysgol. Mae ein disgwyliadau a'n safonau yn uchel. Mae gennym staff ymroddgar a gofalgar sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni y gorau sydd o fewn eu gallu personol. Ar hyn o bryd mae gan yr ysgol 741 o fyfyrwyr, 48 o athrawon a 46 aelod o staff cymorth. Mae'r ysgol yn gwasanaethu ardal o anfantais economaidd-gymdeithasol ac mae gan 32% o fyfyrwyr hawl i brydau ysgol am ddim.
Cyflawnir nodau'r ysgol trwy system fugeiliol gref, ymrwymiad i ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel ac ystod eang o weithgareddau chwaraeon, diwylliannol, cerddorol ac allgyrsiol. Mae myfyrwyr yn hapus, yn gweithio'n galed ac yn bositif am yr ysgol. Maen nhw'n gaffaeliad go iawn i'n cymuned ac yn gyfeillgar dros ben. Mae gennym rieni a llywodraethwyr gwych sy'n gefnogol iawn ac yn ein helpu i sicrhau bod pob myfyriwr yn cael yr addysg orau bosibl. Mae'r ysgol wedi cael canmoliaeth eang am wneud gwelliannau sylweddol wrth reoli ymddygiad, ac mae ein ffocws ar sicrhau'r safonau uchaf trwy ddarpariaeth ragorol.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn neilltuol sydd â'r egni, yr ysgogiad, y gwydnwch a'r ymrwymiad i ymuno â ni ar yr adeg dyngedfennol hon ar ein taith i wella'r ysgol. Os ydych chi'n gyffrous wrth feddwl am y posibilrwydd o chwarae rhan bwysig wrth wireddu uchelgeisiau yr ysgol, os oes gennych gred ddi-baid y gall pob myfyriwr gyflawni, waeth beth fo'u cefndir a'u gallu, yna byddem wrth ein bodd i glywed gennych! Yn gyfnewid, rwy'n gwarantu'n bersonol y cewch y gefnogaeth orau bosibl.
Peidiwch ag oedi rhag cysylltu â keri.powell@abersychanschool.co.uk os hoffech ragor o wybodaeth am y rôl hon neu i drefnu ymweliad â'r ysgol.
Dyddiad cau: 23:59 5ed Mawrth 2026
Dyddiad y cyfweliad: Wythnos yn dechrau 9fed Mawrth 2026
Yn gywir iawn, Rhodri Thomas, Pennaeth. Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.