MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: £31,537 - £34,434 Pro Rata | Grade 6
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 15 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch - Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Torfaen Local Authority
Cyflog: £31,537 - £34,434 Pro Rata | Grade 6
Swydd BarhaolGradd 6 - £31,537- £34.343 (pro-rata)
Amser tymor yn unig (39 wythnos)
Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu wrth i ni i weithredu cwricwlwm i Gymru, tyfu fel ysgol 3-19 ac arloesi gyda systemau newydd i gefnogi hunanwerthuso a gwelliant, datblygiad medrau a safonau dysgwyr.
Ni yw'r unig ysgol cyfrwng Cymraeg 3-19 yn y rhanbarth a'r unig ysgol 3-19 yn sir Torfaen.
Dyma gyfle arbennig i ymuno ag Ysgol Gymraeg Gwynllyw wrth i ni ddatblygu fel ysgol gydol oes. Ym Medi 2022, agorwyd Ysgol Gymraeg Gwynllyw, wrth i'n hadran gynradd groesawu ei disgyblion cyntaf.
Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.
Agorodd Ysgol Gyfun Gwynllyw fel ysgol gyfun Gymraeg gyntaf hen sir Gwent yn 1988 ac ers y cyfnod hynny, braf yw gweld addysg Gymraeg yn ffynnu yn yr ardal hon. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref hanesyddol Pont-y-pŵl, ac yn gyfleus iawn i'r trefi mawrion, Caerdydd (tua hanner awr), Casnewydd (tua chwarter awr), yn ganolog iawn i draffyrdd yr M4 a'r M5 a phriffordd Pennau'r Cymoedd sy'n arwain at Ferthyr, Y Fenni a Henffordd. Mae'r ysgol hefyd yn gweithio'n agos gydag ysgolion uwchradd Cymraeg eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd a chynigir amryw o gyfleoedd datblygiad proffesiynol fel rhan o hyn.
Gwahoddir ceisiadau gan addysgwr sector cynradd cyfrwng Cymraeg. Yn ogystal cynigir hyfforddiant gloywi iaith i addysgwr cynradd ac uwchradd y sector Saesneg os dymunant ymuno a theulu Ysgol Gymraeg Gwynllyw.
Rydym yn edrych i benodi:
- ymarferydd dosbarth cymwysedig eithriadol gydag angerdd am ddatblygu dysgu plant, gyda'r gallu a'r arbenigedd i gyflenwi amser CPA a rhyddhau arweinwyr tîm pan fo angen gan gynnwys cyflenwi dros dro yn y tymor byr, yn ogystal ag arwain ymyraethau i gefnogi ein plant ymhellach.
Rydym yn chwilio am CALU deinamig, gyda disgwyliadau uchel a dealltwriaeth o godi cyrhaeddiad ac yn unigolyn creadigol, cadarnhaol a fydd yn cydweithio fel aelod o dîm sy'n gosod esiampl dda o ran gwisg, prydlondeb a phresenoldeb ac yn modelu gwerthoedd ein hysgol yn effeithiol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- Gweithio ochr yn ochr â'r athrawon dosbarth wrth gynllunio a gweithredu gwersi.
- Cyflwyno cynnwys y wers yn unol â chyfarwyddiadau a chynllun yr athro dosbarth, gan deilwra i ddiwallu anghenion y plant, os oes angen.
- Bod yn rhan o asesu, cofnodi ac adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad y plant.
- Asesu gwaith yn unol â chyfarwyddyd yr athro dosbarth yn unol â pholisi adborth yr ysgol.
Gallwn gynnig cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus:
- Gweithio gyda phlant ag ymddygiad rhagorol, sy'n llawn cymhelliant ac yn awyddus i ddysgu.
- Gweithio o fewn tîm cefnogol, cyfeillgar.
- Datblygu eu datblygiad proffesiynol trwy ystod o gyfleoedd hyfforddi.
- Gweithio mewn ysgol sy'n hybu lles staff.
- Gweithio gyda theuluoedd a llywodraethwyr sy'n gwerthfawrogi ac yn cefnogi gwaith yr ysgol.
Mawr obeithiwn y byddwch yn gwneud cais i ymuno â ni wrth i ni ddatblygu a gwella gyda golwg clir ar y dyfodol.
Gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais erbyn dydd Sul 22ain o Chwefror 2026.
Os ydych am drafod y swydd ymhellach, cysylltwch âr ysgol i siarad â Cath Evans, Pennaeth.
Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad DBS manylach. Mae'r ysgol yn cydymffurfio â Rheoliadau Gofal Plant (Anghymhwyso) 2009, drwy sicrhau nad yw staff yn cael eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Trefnir cyfweliadau wrth i geisiadau ddod i law. Anogir ymgeiswyr felly i gyflwyno eu ffurflenni cais cyn gynted â phosibl. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu'r hysbyseb hon yn ôl cyn y dyddiad cau ar gyfer penodi ymgeisydd addas.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Rydyn ni wedi cofrestru fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.