MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: Heb ei ddarparu
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 16 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Cefnogi Dysgu 1 i 1

Cyngor Sir Fynwy
Hysbyseb SwyddMae'r pennaeth a'r corff llywodraethol yn chwilio am unigolyn dawnus ac ymroddgar o ran cefnogi plentyn 1 i 1. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn partneriaeth gyda staff dynamig ac uchelgeisiol, y gymuned a'r corff llywodraethol er mwyn sicrhau canlyniadau addysg rhagorol ar gyfer disgyblion Ysgol y Fenni. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gydag asiantaethau allanol a bydd mynediad at hyfforddiant a chefnogaeth er mwyn uwchsgilio a datblygu'n broffesiynol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â staff creadigol a blaengar. Dyma swydd diddorol, ond hynod werth chweil ac rydym yn chwilio am y person iawn i ymuno â ni fel rhan annatod o'n tîm cyfeillgar, ymroddedig ac ysbrydoledig. Bydd y pennaeth, staff a'r corff llywodraethol yn darparu cefnogaeth heb ei hail i'r ymgeisydd a fydd yn dangos ymroddiad o'r safon uchaf i gydweithio'n frwdfrydig gyda nhw, i gynnig y gorau posib i holl blant yr ysgol. Mae'r gallu i gyfarthebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn angenrheidiol.
Post Manylion
CYFLOG - GWYBODAETH BWYSIG: Byddai'r cyflog yn pro rata os nad ydych yn gweithio oriau llawn-amser neu 52 wythnos y flwyddyn h.y. oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Athrawon yw 32.5 awr yr wythnos. Mae oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Corfforaethol yn 37 awr yr wythnos. Dyddiad Gorffen Dros Dro (os yn berthnasol): 30/04/2027 Lleoliad: Ysgol Gymraeg Y Fenni, NP7 6HF, United Kingdom. Gall hyn newid yn y dyfodol os oes angen i leoliad y gwasanaeth adleoli. Ni fyddir yn alu treuliau adleoli neu darfu os yw hyn yn digwydd. Yn ystod y Tymor yn unig - Wythnos y Flwyddyn (os yn berthnasol): 39 GWIRIAD GAN Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD: Bydd apwyntiad i'r rôl hon wedi ei eithrio o'r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac yn amodol ar y gwiriad canlynol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: Enhanced with Children Barred List Check ASESIAD O'R GYMRAEG: Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol Cyswllt Recriwtio: Os ydych angen mwy o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â: RACHEL DAVIES / racheldavies@monmouthshire.gov.uk