MANYLION.
  • Lleoliad: Tonypandy,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £34,332 - £36,645
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cydlynydd Hyfforddiant Cydymffurfiaeth

Coleg Y Cymoedd

Cyflog: £34,332 - £36,645

Cydlynydd Hyfforddiant Cydymffurfiaeth
Swydd ddisgrifiad
Am y rôl:

Bydd y Cydlynydd Hyfforddiant Cydymffurfiaeth yn gyfrifol am lunio, cyflenwi a chydlynu holl hyfforddiant
cydymffurfiaeth statudol a gorfodol ar draws y coleg. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant iechyd a diogelwch,
amddiffyn, diogelu data, cydraddoldeb ac amrywiaeth, atal aflonyddu rhywiol a gofynion rheoleiddiol eraill.
Bydd daliwr y swydd yn cynnig graddfa fawr o hyfforddiant wyneb yn wyneb yn flynyddol tra'n cydlynu
llwyfannau e-ddysgu a darparwyr hyfforddiant allanol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth 100% ar draws holl
safleoedd y coleg. Mae'r rôl yn gofyn am sgiliau rhagorol o ran cyflenwi hyfforddiant, ynghyd â galluoedd
trefniadol cadarn a gwybodaeth fanwl a thrylwyr o ofynion cydymffurfiaeth y sector Addysg Bellach.


Gwybodaeth Bellach:

Mae angen i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.

Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i'w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu'r newidiadau hynny sy'n gymesur â'r rôl.

Canllawiau Cais:

Yn unol â Pholisi Recriwtio'r Coleg, byddwn yn defnyddio'r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni'r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a'r Meini Prawf Dymunol os yw hynny'n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o'r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny'n berthnasol). Yn yr adran 'Gwybodaeth Bellach', dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni'r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.

Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau'r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law

Cyswllt:

Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â people@cymoedd.ac.uk