MANYLION.
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Pay Scale Within: £33,731 - £51,942 plus TLR 2B
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth Mathemateg - Ysgol Penrhyn Dewi VA

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Pay Scale Within: £33,731 - £51,942 plus TLR 2B

Ysgol yr Eglwys yng Nghymru 3-16 oed yw Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Penrhyn Dewi ac mae'n gwasanaethu dinas hanesyddol Tyddewi a'r cyffiniau. Wedi'i lleoli yn ardal brydferth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae'r ysgol yn cynnig amgylchedd gofalgar, cynhwysol a chroesawgar lle mae'r disgyblion a'r staff yn falch o'r ethos Cristnogol a chymunedol. Mae gan Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Penrhyn Dewi draddodiad ac enw da rhagorol am ddefnyddio ei hamgylchedd unigryw i sbarduno profiadau dysgu dilys. Gwelwyd tystiolaeth o hyn yn y cameo a gomisiynwyd gan Estyn yn dilyn eu harolygiad yn hydref 2022. Mae'r ysgol yn ysgol rhwydwaith arweiniol ar gyfer rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon Prifysgol Abertawe.

Os ydych chi'n ymarferydd llawn cymhelliant sydd â brwdfrydedd dros addysgu a dysgu Mathemateg ac yn llawn cyffro am y posibilrwydd o arwain un o'r Meysydd Dysgu a Phrofiad Mathemateg cryfaf yn y sir, darllenwch ymlaen.

Mae'r ysgol am benodi Pennaeth Maes Dysgu Mathemateg ar gyfer mis Medi 2026. Mae hwn yn gyfle gwych i addysgwr angerddol sy'n barod i gymryd y cam nesaf yn ei yrfa a chyfrannu at lunio dyfodol Mathemateg ar draws ein hysgol pob oed.

Rydym yr un mor agored i benodi arweinydd canol profiadol neu athro dosbarth eithriadol sy'n dangos potensial arweinyddiaeth cryf, gan gynnwys sgiliau trefnu cadarn, y gallu i ysbrydoli dysgwyr a chydweithwyr, a'r uchelgais i hyrwyddo safonau uchel ar draws yr adran. Rydym wedi ymrwymo i fentora'r ymgeisydd llwyddiannus drwy gydol blwyddyn gyntaf y rôl.

Rydym yn croesawu'n gynnes geisiadau gan athrawon sydd wedi'u hyfforddi yn y sector cynradd neu uwchradd, a all ddod â chreadigrwydd, uchelgais ac ymrwymiad i safonau uchel. Fodd bynnag, mae'r gallu i addysgu hyd at lefel TGAU yn hanfodol.

Wrth i ni barhau i alinio â datblygiadau diweddaraf y cwricwlwm, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn ein helpu i adeiladu amgylchedd dysgu arloesol sy'n canolbwyntio ar y dyfodol, lle gall eich syniadau a'ch arbenigedd wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rydym yn adran gefnogol gyda chanlyniadau da, ac rydym yn adeiladu arnynt o flwyddyn i flwyddyn.

Mae yna hefyd y posibilrwydd o daliad interim ychwanegol a/neu amser rheoli sy'n gysylltiedig â'n rhaglen mwy abl a thalentog (MAT) a SEREN os yw hyn yn cyd-fynd âch diddordebau.

Rydym yn falch iawn o'n hysgol a byddem wrth ein bodd yn croesawu darpar ymgeiswyr i ymweld âr ysgol-naill ai yn ystod y diwrnod ysgol neu ar ôl i'r ysgol gau-i drafod y rôl ymhellach ac i roi ymdeimlad gwirioneddol o'n hethos Cristnogol, ein dysgwyr, a'n gweledigaeth.

Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.


Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
  • Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
  • Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
  • Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.


Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol


  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn dim ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.