MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llandrindod Wells,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 12 Pwynt 33 i Bwynt 35 £44,075 i £46,142 y flwyddyn £22.84 i £23.91 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 01 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa 12 Pwynt 33 i Bwynt 35 £44,075 i £46,142 y flwyddyn £22.84 i £23.91 yr awr
Swyddog Cynllunio Addysg a'r GymraegSwydd-ddisgrifiad
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon
Am y rôl:
Fel rhan o Wasanaeth Cynllunio ac Adnoddau Addysg newydd y Gyfarwyddiaeth Addysg, bydd y rôl strategol hon yn arwain datblygiad a darparu addysg cyfrwng Cymraeg ledled Powys. Byddwch yn gyfrifol am weithredu'r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSCA), cefnogi'r Strategaeth Trawsnewid Addysg, a chyfrannu at y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, a chefnogi ysgolion i fodloni gofynion Bil y Gymraeg ac Addysg newydd.
Amdanoch chi:
Rydych chi'n siaradwr Cymraeg rhugl gyda dealltwriaeth gref o bolisi addysg cyfrwng Cymraeg, addysgeg ddwyieithog, a chynllunio strategol. Rydych chi'n hyderus wrth arwain newid, dylanwadu ar randdeiliaid, a chyflawni canlyniadau mesuradwy. Rydych chi'n angerddol am y Gymraeg ac wedi ymrwymo i sicrhau mynediad cyfartal i addysg cyfrwng Cymraeg ledled Powys.
Eich dyletswyddau:
Byddwch yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws y Gyfarwyddiaeth Addysg, gwasanaethau eraill y Cyngor, ysgolion a sefydliadau partner i sicrhau dull cydlynol a chydweithredol o ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg o'r blynyddoedd cynnar hyd at ôl-16. Mae'r rôl hon yn ganolog i ymrwymiad Cyngor Sir Powys i gynyddu mynediad
at addysg cyfrwng Cymraeg a chefnogi targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Am ragor o wybodaeth am y swydd, gallwch gysylltu â: Marianne Evans
Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon