MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Cynffig Comprehensive,
- Oriau: Not Specified
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: £12,220 per annum
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 04 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cogydd Cynorthwyol - Ysgol Gyfun Cynffig
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £12,220 per annum
20 awr yr wythnosAmser Tymor
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn adran Gwasanaethau Arlwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Gwasanaethau Arlwyo yn darparu prydau bwyd mewn ysgolion cynradd, ysgolion arbennig ac ysgolion uwchradd ar draws y fwrdeistref ar gyfer disgyblion a staff drwy gytundeb lefel gwasanaeth gyda'r ysgolion unigol.
Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y swydd cogydd cynorthwyol yn Ysgol Gynradd Llidiart yn cefnogi'r cogydd i baratoi prydau ysgol gynradd am ddim i bawb a rheoli a chydlynu gweithgareddau yn y gegin hon o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd yn cael ei ddarparu i'r holl gwsmeriaid.
Bydd disgwyl i chi gyflenwi ar gyfer y Cogydd yn ei absenoldeb a chyflenwi mewn ysgolion eraill yn y Fwrdeistref Sirol.
Mae angen Tystysgrif Hylendid Bwyd Canolradd ar gyfer y swydd hon. Darperir hyfforddiant os bydd angen.
Trefnir oriau gwaith rhwng 10am a 2pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod y tymor yn unig.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwahardd Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 04 Mawrth 2026
Dyddiad y Rhestr Fer: Wythnos yn Dechrau 09 Mawrth 2026
Dyddiad y Cyfweliad: Wythnos yn Dechrau 16 Mawrth 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person