MANYLION.
  • Lleoliad: Pencoed Comprehensive,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: £15,136 - £15,629 per annum
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Technegydd Gwyddoniaeth - Ysgol Gyfun Pencoed

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £15,136 - £15,629 per annum

24 awr yr wythnos (4 diwrnod yr wythnos, dydd Mawrth - dydd Gwener) - Parhaol

Yn ystod tymor yr ysgol yn unig

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Technegydd Gwyddoniaeth dynamig, brwdfrydig a phrofiadol sy'n angerddol am brofiadau dysgu disgyblion, i ymuno â'n Hadran Wyddoniaeth brysur a llwyddiannus. Rydym yn ceisio recriwtio Technegydd Gwyddoniaeth sy'n gallu cyfrannu'n llwyddiannus at yr ethos ysgol gyfan Dysgu, Tyfu, Ffynnu ac i fynd ati'n effeithiol i ddatblygu rhagoriaeth mewn dysgu a lles.

Rydym yn gwerthfawrogi pob aelod o gymuned yr ysgol ac yn ddiwyro o ran meithrin yn ein disgyblion awydd i fod y fersiynau gorau ohonynt eu hunain. Mae gennym y disgwyliadau uchaf o'n disgyblion a'n staff. Rydym yn falch iawn o'r gymuned ddysgu gefnogol yr ydym wedi'i chreu.

Os mai chi yw'r Technegydd Gwyddoniaeth eithriadol rydym yn chwilio amdano, bydd y canlynol yn wir amdanoch:

- Bydd gennych hunangymhelliant, yn drefnus, hyblyg, effeithlon ac yn gallu cyflawni gofynion cwricwlwm gwyddoniaeth CA3, CA4 a CA5.

- Byddwch yn gallu darparu amrywiaeth o gymorth arbenigol gan gynnwys paratoi a chynnal a chadw adnoddau gwyddoniaeth, labordy ac adnoddau ac offer perthnasol arall.

- Sgiliau cyfathrebu (ysgrifenedig a llafar) a rhyngbersonol rhagorol gan sicrhau gallu i ymdrin â phobl/sefyllfaoedd ar bob lefel o weithredu;

- Chwaraewr tîm ardderchog.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau'n ymwneud âr swydd hon, ffoniwch Mrs G DeCaux, Rheolwr Busnes yr Ysgol, 01656 867100. D.S. Gofynnir am eirdaon ar gyfer pob ymgeisydd cyn y cyfweliad. A fyddech cystal â rhoi gwybod i'ch canolwyr.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 04 Mawrth 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer:

Dyddiad y Cyfweliad:

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person