MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Abermule,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: ISR: 7-13
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: ISR: 7-13
Pennaeth (Ysgol Gynradd Gymunedol Aber-Miwl)Swydd-ddisgrifiad
YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL ABER-MIWL
PENNAETH
Angenrheidiol ar gyfer 1 Medi 2026 neu'n gynharach os yn bosibl.
Bydd y rôl hon yn cynnwys ymrwymiad addysgu rheolaidd.
ISR: 7-13
NOR: 78
32.5 awr, Parhaol
Yn dilyn cyfnod o newid ac ansicrwydd, mae'r Corff Llywodraethol yn ceisio penodi Pennaeth newydd i arwain yr ysgol ymlaen trwy ei cham nesaf o ddatblygiad. Daw'r cyfle cyffrous hwn ar adeg bwysig o drawsnewid i'r ysgol sy'n barod am arweinyddiaeth a chyfarwyddyd newydd gan Bennaeth ysbrydoledig a thosturiol.
Saif ein hysgol yng nghanol cymuned glos. Mae'n fan lle mae plant yn cael eu hadnabod fel unigolion, lle mae teuluoedd yn cael eu croesawu, a lle mae perthnasoedd yn wirioneddol bwysig. Er bod yr ymdeimlad hwnnw o gyfeillgarwch a pherthyn yn parhau'n gryf, rydym yn gwybod bod yr ysgol wedi colli rhywfaint o'i disgleirdeb yn ystod y blynyddoedd diwethaf - ac rydym yn barod am arweinydd a all ei helpu i ddisgleirio eto.
Mae'r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer athro sy'n awyddus i wneud ei farc: rhywun sydd â'r weledigaeth, yr egni a'r creadigrwydd i lunio dyfodol yr ysgol, gan barchu a meithrin y gwerthoedd sy'n ei gwneud yn arbennig. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gefnogaeth lawn y corff Llywodraethol a'r rhyddid i gyflwyno syniadau newydd, codi dyheadau a safonau, ac ail-egnïo addysgu a dysgu - heb golli'r cynhesrwydd, yr hygyrchedd a'r ysbryd cymunedol sy'n ein diffinio.
Bydd gan y person cywir:
- Hanes profedig fel arweinydd, rheolwr ac athro deinamig rhagorol, sy'n ysbrydoli ac yn grymuso'r rhai o'u cwmpas.
- Gweledigaeth glir i ddatblygu'r ysgol ymhellach, a'r sgiliau a'r penderfyniad i gyflawni'r weledigaeth honno gyda chefnogaeth staff, rhieni a llywodraethwyr.
- Y gallu i arwain a chymell disgyblion, staff a'r gymuned ehangach i greu diwylliant effeithiol a chynhwysol o ddysgu gydol oes.
- Y gred ym manteision partneriaeth agos rhwng yr ysgol a'r gymuned ehangach.
- Y gallu i weithio ar y cyd ac yn effeithiol gyda rhwydweithiau clwstwr, rhanbarthol a chenedlaethol.
- Angerdd dros addysgu a dysgu, gan ddangos ymrwymiad cryf i'r plant a'r staff, gyda disgwyliadau uchel ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol.
- Deall pwysigrwydd y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd yr ymgeisydd naill ai'n ymgymryd âl hon yn bersonol neu bydd yn rheolwr llinell ar y gyfryw rôl.
- Gwybodaeth gyfoes am Gwricwlwm Cymru, ynghyd â blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.
I gael blas o'n hysgol, edrychwch ar dudalen ein gweplyr - facebook page neu ar ein gwefan - website ; ac am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad âr ysgol, cysylltwch â chadeirydd y corff llywodraethol - sef y Cynghorydd Alan Meredith-Jones, drwy gyfrwng cyfeiriad ei e-bost: Meredith-JonesA5@Hwbcymru.net
Mae'r cymhwyster NPQH wedi ei restru fel un Hanfodol ond bydd y Corff Llywodraethol yn ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr sydd wedi cael eu dewis ar gyfer neu sydd yn y broses o gwblhau'r rhaglen NPQH.
Rhagwelir y bydd y cyfarfod llunio rhestr fer a'r cyfweliadau ar y dyddiadau canlynol:
Dyddiad Cau: 25 Chwefror 2026 am 5.00 yp
Llunio Rhestr Fer: 2 Mawrth 2026
Cyfweliadau: 17 a 18 Mawrth 2026
Mae'r swydd hon yn destun gwiriad DBS manwl