MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Leadership Scale 19 - 23
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 23 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Leadership Scale 19 - 23
I ddechrau ym mis Medi 2026Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Dirprwy Bennaeth sy'n llawn ysbrydoliaeth ac ymroddiad i ymuno â'n huwch-dîm arwain. Bydd y meysydd cyfrifoldeb penodol ar gyfer y swydd hon yn cael eu pennu adeg y penodiad, yn ôl sgiliau, profiad a diddordebau'r ymgeisydd llwyddiannus. Fodd bynnag, bydd y rôl yn gofyn i ddeiliad y swydd ymgymryd ag arweinyddiaeth strategol a gweithredol ar gyfer meysydd sylweddol o ddarpariaeth yr ysgol. Bydd yn ofynnol iddynt werthuso safonau'r ddarpariaeth yn y meysydd hynny'n drylwyr, cynllunio gwelliant parhaus a'i gyflawni, a hwyluso dysgu proffesiynol angenrheidiol. Bydd arnynt angen arwain a rheoli timau o staff addysgu a staff cymorth yn effeithiol hefyd, trwy sefydlu cydberthnasau cadarnhaol a'u cynnal. Felly, rydym yn chwilio am uwch-arweinydd profiadol sydd â hanes profedig o wella'r ddarpariaeth a'r canlyniadau ar lefel ysgol gyfan. Dylent fod yn gyfarwydd ag ystod eang o strategaethau arwain effeithiol, dylent fod yn angerddol am degwch mewn addysg a dylent fod ag ymroddiad i gael gwared ar rwystrau sy'n atal dysgwyr rhag ymgysylltu ym mhob ffordd bosibl. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys cyfrifoldebau cyffredinol o fewn yr uwch dîm arwain, er enghraifft rheoli llinell a delio â materion llesiant ac ymddygiad bob-dydd - byddai profiad yn y meysydd hyn yn fuddiol felly.
Mae Ysgol Gorllewin Mynwy yn ysgol uwchradd gymysg i ddisgyblion 11-16 oed ac mae'n gwasanaethu Pont-y-pŵl a'r cyffiniau. Mae'r ysgol wedi ehangu'n gyflym iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac ar hyn o bryd mae ganddi tua 1160 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae gan Ysgol Gorllewin Mynwy enw ardderchog yn ei chymuned am ganlyniadau academaidd a gofal bugeiliol ac mae llawer o ddisgyblion o'r tu allan i'n dalgylch traddodiadol wedi dewis ymuno â ni yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a bydd hyn yn cynnwys gwiriad Uwch gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Ar gyfer y swydd hon mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau y mae gweithlu amrywiol yn eu cyflwyno ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli.
Rydym wedi ein cofrestru fel Cyflogwr sy'n Hyderus o ran Anabledd ac rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl a chynnig datblygiad gyrfa i bobl anabl. Mae ein cynllun Gwarant o Gyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, cyn belled âu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes cyflwr iechyd arnoch, os ydych chi'n niwrowahanol, neu'n defnyddio iaith arwyddion Prydain, ac angen trafod addasiadau rhesymol, cysylltwch âr rheolwr recriwtio. Gallwn ni weithio gyda chi i drefnu addasiadau ond mae'n rhaid i ni gael gwybod beth yw eich gofynion cyn i chi gyflwyno'ch cais, neu cyn eich prawf neu gyfweliad.