MANYLION.
  • Lleoliad: Conwy, Conwy, LL32 8ED
  • Pwnc: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 09 Chwefror, 2026 12:00 y.p
Mewngofnodwch i ymgeisio

Cynorthwyydd Addysgu

Ysgol Aberconwy
Cynorthwyydd Addysgu
Ystod Cyflog : G05 : £10,283 - £11,528
Mae hon yn swydd dros dro o 15 awr yr wythnos.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau : Dydd Llun, Chwefror 9fed.
Dyddiad Cychwyn : Chwefror 23ain (neu mor fuan â phosibl wedi hynny).

Rydym yn ceisio penodi Cynorthwyydd Addysgu brwdfrydig a llawn cymhelliant i gefnogi myfyrwyr yn ein hadran ADY. Byddant yn gweithio o dan arweiniad y Cydlynydd ADY i ddarparu cefnogaeth i fyfyrwyr yn y dosbarth, neu mewn grwpiau bach, gan ganolbwyntio'n benodol ar sgiliau llythrennedd a rhifedd, cyfathrebu cymdeithasol ac anawsterau ymddygiadol. Byddant yn cymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol, gan ddarparu cefnogaeth weinyddol a chymryd lle cydweithwyr absennol yn ogystal â chefnogi myfyrwyr y tu allan i’r dosbarth. Byddant hefyd yn cymryd peth cyfrifoldeb fel rheolwr llinell cynorthwywyr addysgu eraill, gan drefnu eu hamserlenni dyddiol.
Yn gyfnewid rydym yn cynnig:
• Ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol;
• Ysgol â dyheadau uchel a chyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth;
• Cyfle i helpu i lywio addysgu a dysgu a'n cwricwlwm amgen;
• Tîm ymroddedig a chefnogol o staff proffesiynol a llywodraethwyr ;
• Cysylltiadau cryf ag ysgolion lleol eraill ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a chefnogaeth;
• Ysbryd cymunedol cryf;
• Lle bywiog a diddorol i weithio ynddo.
JOB REQUIREMENTS
I lawrlwytho Pecyn Gwybodaeth yr Ymgeisydd a gwneud cais ar-lein ewch i:

https://www.aberconwy.conwy.sch.uk/cy/job-opportunities/