MANYLION.
  • Lleoliad: Rhos-on-Sea,
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £22.58 - £34.91yr awr (sy'n cynnwys lwfans gwyliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd - Busnes/ Economeg

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £22.58 - £34.91yr awr (sy'n cynnwys lwfans gwyliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Rydym yn awyddus i benodi darlithydd Addysg Uwch i gyflwyno modiwlau sy'n ymwneud â Busnes/Economeg. Bydd yr addysgu ar ein rhaglenni FdA a BA (Anrh) Rheoli Busnes (Lefel 4-6).

Bydd y swydd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu fel darlithydd o dan arweiniad a chyda chefnogaeth yr Arweinwyr Rhaglen, y Cydlynwyr a'r Mentoriaid sy'n arwain y ddarpariaeth yn yr adran. Byddai eich dyletswyddau'n cynnwys paratoi a chyflwyno darlithoedd diddorol i'n dysgwyr ynghyd â'r gwaith gweinyddu, asesu a sicrhau ansawdd sy'n gysylltiedig â hynny. Anogwn y defnydd o ddulliau dysgu ac addysgu ymarferol a gweithredol er mwyn gwneud y dysgu'n ddiddorol. Cewch gyfle i gymhwyso eich gwybodaeth ac enghreifftiau o'ch profiadau i'r dysgu ac addysgu. Bydd hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn ennill dealltwriaeth a gwerthfawrogiad trylwyr o'r dyletswyddau, yr heriau a'r buddion sy'n gysylltiedig â dilyn gyrfa ym maes y diwydiant Busnes.

Mae'r swydd hon yn swydd gyflenwi a delir fesul yr awr yn y lle cyntaf gyda'r potensial am oriau cyflenwi tymor hir yn y dyfodol.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/130/26

Cyflog
£22.58 - £34.91yr awr (sy'n cynnwys lwfans gwyliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Llandrillo-yn-Rhos

Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.

Patrwm gweithio
19-21 awr yr wythnos. Patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd. Mae'r pwnc a lefel y ddarpariaeth yn seiliedig ar gymwysterau a phrofiad

Noder os gwelwch yn dda - Bydd yr addysgu yn digwydd rhwng dydd Llun a dydd Iau ac mae hefyd yn cynnwys darpariaeth gyda'r nos ar ddydd Mercher.

Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.

Wythnosau gwaith - 38 wythnos (yn ystod tymor y Coleg)

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr

Dyddiad cau
13 Chwef 2026
13:00 YH