MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Caernarfon,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £40,325 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 11 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £40,325 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
Mae'r swydd hon yn briodol ar gyfer Graddedigion Seicoleg sydd a'r bwriad i fynd ymlaen i hyfforddi fel Seicolegydd Addysgol yn y dyfodol drwy gwblhau doethuriaeth DEdPsy.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth .
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Siwan Elenid Glyn ar 07770637149 neu elenidglyn@gwynedd.llyw.cymru
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 10 : 00 O'R GLOCH, 11/02/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig
Sgiliau rhyngbersonol rhagorol
Y gallu i weithio dan bwysau a chyfarfod â therfynau amser
Y gallu i feddwl a gweithio yn greadigol a systemig
Trwydded yrru llawn a mynediad at drafnidiaeth
Dymunol
Bod yn ymwybodol o weledigaeth Strategaeth ADYaCh Gwynedd ac Ynys Môn
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
Cymhwyster lefel gradd (2:1 neu Uwch) mewn Seicoleg
Cymwys am achrediad gan y BPS
Dymunol
Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
Profiad perthnasolHanfodol
Profiad o weithio gyda plant a phobl ifanc
Dymunol
Profiad o gasglu data
Profiad o weithio gyda plant a phobl ifanc mewn lleoliad addysgol
Dealltwriaerth o faterion ADY a Chynhwysiad
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
Gwybodaeth a dealltwriaeth am ddatblygiadau diweddar ym maes Seicoleg
Y gallu i weithio dan arweiniad a goruchwyliaeth oddi mewn i rwydweithiau gwasanaeth i blant a'u teuluoedd.
Dymunol
Arbenigedd mewn meysydd penodol
Ymwybodol o Strategaeth ADYaCh Gwynedd ac Ynys Môn
Dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth ADYaCh a'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021
Dealltwriaeth o Ddulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn
Dealltwriaeth o Gynlluniau Datblygu Unigol
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Hyrwyddo arfer dda trwy ddefnyddio gwybodaeth a thechnegau seicolegol.
• Cynorthwyo gyda rôl strategol ar ran yr A.Ll. mewn maes/meysydd sydd yn cyd-fynd â strategaeth ADY a chynhwysiad, a Strategaeth Addysg Awdurdodau Lleol Gwynedd ac Ynys Môn. Mae hyn yn cynnwys gweithio dan oruchwyliaeth, ac ar y cyd gyda Seicolegwyr Addysgol i:
• Ddarparu Hyfforddiant Mewn Swydd ar gyfer staff ysgolion, rhieni ac aelodau o'r Tîm Integredig mewn maes/meysydd anhawsterau dysgu amrywiol, lles emosiynnol, iechyd meddwl, ymyrraethau ysgol gyfan/grŵp/ unigolion, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid perthnasol.
• Sicrhau fod ymyraethau sydd yn cael eu cynnig yn y maes/meysydd yn seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil o effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd.
• Cynllunio, monitro ac adolygu ymyraethau effeithiol ar gyfer y disgyblion unigol.
• Cyfrannu at y dystiolaeth sydd ar gael yn y maes/meysydd yma.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Cyfrifoldeb am gefnogi seicolegwyr addysgol i gynnal hyfforddiant a chreu adnoddau ar gyfer ysgolion, canolfannau a rhieni
• Gliniadur a ffôn symudol
Prif ddyletswyddau
O Dan arweiniad Seicolegydd Addysgol wedi cymhwyso, Cynnig gwasanaeth Seicoleg Gymhwysol i:
• Cyfrannu i effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol a Gwasanaeth Integredig yr A.Ll. yn ôl dangosyddion effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yr A.Ll. dan arweiniad y Prif Seicolegydd Addysgol
• Cefnogi Seicolegwyr Addysgol i ymgymryd â dyletswyddau statudol yn ôl Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 a gweithredu polisïau a phrosesau statudol eraill yr A.Ll.
• Darparu gwasanaeth drwy amrywiaeth o ddulliau (ymgynghori, asesu, arsylwi, rhaglenni ymyrraeth, gwaith unigol, gwaith prosiect, casglu data) trwy weithio o fewn y Tîm Integredig
• Cydweithio gyda rhieni/athrawon a disgyblion er mwyn darganfod pa fath o ymyrraeth sydd yn fwyaf effeithiol ar gyfer yr angen. Darparu rhannau o'r ymyrraeth yma yn uniongyrchol pe byddai'n addas (e.e. gwaith therapiwtig neu asesu unigol).
• Gweithio yn agos gyda'r Seicolegwyr Addysgol mewn maes/meysydd arbenigol yn unol â'r galw
• Cynorthwyo Seicolgwyr Addysgol i gefnogi ysgolion i ddiwallu anghenion addysgol y disgyblion a gyfeirir trwy ddull ymgynghorol
• Ymgymryd â hyfforddiant proffesiynol pellach a fydd yn angenrheidiol i weithrediad effeithlon ac effeithiol y Gwasanaeth yn unol â Chynllun Datblygiad Proffesiynol
• Cyfrannu yn i brosiectau penodol sydd yn cael eu sefydlu gan yr A.Ll.
• Cydweithio mewn modd integredig gyda gwasanaethau eraill o fewn yr A.Ll. a chysylltu â chydweithio gyda gwasanaethau ac asiantaethau eraill yn unol â'r anghenion a'r ymarfer yn yr Awdurdod Addysg.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill ar gais Rheolwyr sy'n briodol i lefel cyfrifoldeb y swydd.
Cyffredinol
• Ymateb i unrhyw gais rhesymol arall ar gais y Pennaeth Gwasanaeth Addysg.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
• -
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi