MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend (Queens Road), Bridgend, CF31 3UT
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £21,506.00 - £42,326.00
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 06 Gorffennaf, 2022 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Darlithydd a Delir yn ol yr awr mean Gwaith Cymdeithasol

Darlithydd a Delir yn ol yr awr mean Gwaith Cymdeithasol

Coleg Penybont
Darlithydd a Delir yn ol yr awr mean Gwaith Cymdeithasol

Noder, contract a delir yn ôl yr awr yw hon, sy’n golygu na ellir gwarantu dyddiau ac oriau penodol - fe’u cynigir ar sail achlysurol, ad hoc, i fodloni anghenion y gwasanaeth, felly gallant amrywio.

Digymhwyster: £21,506 - £25,380 y flwyddyn (pro rata, tȃl fesul awr)
Cymwysedig: £27,382 - £42,326 y flwyddyn (pro rata, tȃl fesul awr)

Mae gennym gyfle cyffrous i chi ymuno â'n tîm cwricwlwm angerddol a brwdfrydig yng Ngholeg Penybont. Fel darlithydd, byddwch yn cynllunio, datblygu, gwerthuso ac yn cyflwyno cynnwys y rhaglen gan ddarparu hyfforddiant rhagorol ar draws y rhaglen Gwaith Cymdeithasol lawn (gan gynnwys Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol).

Mae'n hanfodol bod gennych brofiad diweddar a chymhwyster cydnabyddedig mewn gwaith cymdeithasol, ynghyd â gwybodaeth am ddeddfwriaeth, polisi cymdeithasol a dulliau damcaniaethol sy'n ymwneud â gwaith cymdeithasol. Dylech fod yn gyfarwydd â, a theimlo'n hyderus yn, cyflwyno modiwlau addysgu penodol fel Ymarfer ar Sail Tystiolaeth, Gwerthuso Gwaith Cymdeithasol, a Risgiau a Gwneud Penderfyniadau, ynghyd â'r holl ofynion ymgynghori, paratoi a marcio cysylltiedig. Gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i uniaethu â myfyrwyr amrywiol, byddwch yn gallu ysgogi dysgwyr o bob oed a chefndir.

Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd.

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.