MANYLION.
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: Hourly rate: £12.85 | Grade 1
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Glanhawr - Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Henllys

Torfaen Local Authority

Cyflog: Hourly rate: £12.85 | Grade 1

10 Awr yr wythnos, 41 Wythnos y flwyddyn

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

'Tyfu gyda'n gilydd trwy ein Ffydd a'n Cariad'

Mae'r Corff Llywodraethol yn ceisio penodi glanhawr i weithio gyda'n gofalwr i sicrhau lefelau uchel o hylendid a glendid ar draws yr ysgol. Mae Henllys yn Ysgol Eglwys yng Nghymru hynod lwyddiannus wedi'i lleoli yng Nghwmbrân ac ar hyn o bryd mae ganddi 180 o blant ar y gofrestr. Rydym yn chwilio am lanhawr ymroddedig i ymuno â'n tîm gweithgar.

Os hoffech gael rhagor o fanylion am y swydd hon, cysylltwch âr Pennaeth, Mrs. Philippa Minto ar 01633 877796.

Fel rhan o'r broses, bydd ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn destun cyfweliad,

Dyddiad Cau: Dydd Llun 9 Chwefror 2026 am 23:59

Llunio Rhestr Fer: Dydd Mawrth 10 Chwefror 2026

Cyfweliadau: Dydd Iau 12 Chwefror 2026

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.