MANYLION
- Lleoliad: Bridgend (Queens Road), Bridgend, CF31 3UT
- Testun: Darlithydd
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Misol
- Iaith: Dwyieithog
- Dyddiad Cau: 06 Gorffennaf, 2022 11:59 y.p
This job application date has now expired.
Mae gennym gyfle cyffrous i chi ymuno â'n tîm cwricwlwm angerddol a brwdfrydig yng Ngholeg Penybont. Fel darlithydd, byddwch yn cynllunio, datblygu, gwerthuso ac yn cyflwyno cynnwys y rhaglen gan ddarparu hyfforddiant rhagorol ar draws y rhaglen Gwaith Cymdeithasol lawn (gan gynnwys Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol).
Fel rhan o'r swydd hon byddwch hefyd yn ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr Rhaglen sy'n cynnwys datblygu a chynnal ein partneriaeth waith agos â Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd yr ydym yn masnachfreinio’r cwrs ganddi, ynghyd ag asiantaethau partner eraill. Byddwch yn arwain y tîm Gwaith Cymdeithasol, gan gydweithio'n agos â'r Rheolwr Cwricwlwm, i ennyn lefelau uchel o ymgysylltiad o fewn y tîm i gyflawni canlyniadau rhyfeddol. Cydnabyddir y cyfrifoldebau hyn trwy ryddhad o oriau addysgu.
Mae'n hanfodol bod gennych brofiad diweddar a chymhwyster cydnabyddedig mewn gwaith cymdeithasol, ynghyd â gwybodaeth am ddeddfwriaeth, polisi cymdeithasol a dulliau damcaniaethol sy'n ymwneud â gwaith cymdeithasol. Dylech fod yn gyfarwydd â, a theimlo'n hyderus yn, cyflwyno modiwlau addysgu penodol fel Ymarfer ar Sail Tystiolaeth, Gwerthuso Gwaith Cymdeithasol, a Risgiau a Gwneud Penderfyniadau, ynghyd â'r holl ofynion ymgynghori, paratoi a marcio cysylltiedig. Gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol, sgiliau arwain ysbrydoledig a'r gallu i uniaethu â myfyrwyr amrywiol, byddwch yn gallu ysgogi dysgwyr o bob oed a chefndir.
Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd.
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.