MANYLION.
  • Lleoliad: Swansea,
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £28,142 i £29,540 y flwyddyn ar gyfartaledd £14.58 i £15.31 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Hyfforddwr Dysgu (Mentor) (Ysgol Maesydderwen)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £28,142 i £29,540 y flwyddyn ar gyfartaledd £14.58 i £15.31 yr awr

Hyfforddwr Dysgu (Mentor) (Ysgol Maesydderwen)
Swydd-ddisgrifiad

Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Mae'r swyddog yn gweithio mewn cyd-destun amlasiantaethol/aml-broffesiynol, i gyfrannu at godi safonau cyrhaeddiad, gwella presenoldeb, cwtogi ar waharddiadau a chynnal ymddygiad da, drwy ddarparu gwasanaeth cyflenwol (i'r un a ddarperir gan athrawon a staff bugeiliol) i
ymdrin ag anghenion dysgwyr sydd angen cymorth a chefnogaeth i oresgyn rhwystrau i ddysgu, y tu mewn a'r tu allan i'r ysgol, i gyflawni eu potensial llawn.
Cyfrifoldeb am bobl eraill:
Mae'r swydd yn cael effaith sylweddol ar les unigolion neu grwpiau yn uniongyrchol a thrwy ei chyfraniad at ddatblygu polisïau sy'n cael effaith uniongyrchol ar ddysgwyr.
Cyfrifoldeb am staff:
Mae gan y swydd rywfaint o gyfrifoldeb am bobl eraill, drwy gynghori, llywio, cyfarwyddo a chyd-gysylltu gweithredoedd staff eraill.
Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol:
Mae gan y swydd rywfaint o gyfrifoldeb am adnoddau ariannol drwy weinyddu'r gyllideb hyfforddwyr dysgu.

Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon