MANYLION.
  • Lleoliad: Ynys Môn,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: 16865.00 - 25971.00 GBP per Year
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Cefnogi - Blynyddoedd Cynnar

Cyngor Sir Ynys Mon

Cyflog: 16865.00 - 25971.00 GBP per Year

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Pwrpas cyffredinol y swydd
Darparu arweiniad a chymorth i'r sector nas gynhelir i sicrhau bod ansawdd y dysgu ac addysgu a'r gofal o'r safon uchaf. Mae'n ofynnol i ddeiliad y swydd fod yn athro/athrawes cymwysedig rhagorol gyda phrofiad a dealltwriaeth dda o sector nas gynhelir y Blynyddoedd Cynnar. Disgwylir fod gan y deilydd sgiliau TGCh ardderchog, y gallu i lunio adroddiadau arfarnol ac yn weithiwr tîm ymroddedig.

Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a chofrestriad CGA.

Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o wybodaeth ac ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y ffurflen gais a'r disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y ddwy ddogfen hyn yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt a chyflwyno ffurflenni cais
Enw: Nerys Rogers

Rhif ff ô n: 07789935769

Cyfeiriad e-bost: nerysrogers@ynysmon.llyw.cymru

Ffurflenni cais i'w dychwelyd i: Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW i sylw Nerys Rogers neu trwy e-bost i nerysrogers@ynysmon.llyw.cymru

Dyddiad Cau: 09/02/2026